Sut ydw i’n ymateb i neges yn y Blwch Derbyn fel myfyriwr?

Mae Canvas yn ei gwneud yn hawdd i chi ateb negeseuon gan ddefnyddwyr eraill yn eich Blwch Derbyn.

Os yw eich rhestr derbynwyr yn cynnwys mwy na 100 o ddefnyddwyr, bydd eich neges yn cael ei hanfon yn awtomatig fel neges unigol at bob defnyddiwr. Byddwch chi, fel yr anfonwr, hefyd yn cael eich cynnwys yng nghyfanswm y derbynwyr.

Os ydych chi am ymateb i sylw ar gyflwyniad, gallwch ymateb drwy ddefnyddio’r sylwadau ar gyflwyniad yn eich Blwch Derbyn, neu’n uniongyrchol o’ch aseiniad neu’ch cwis.

Agor Blwch Derbyn

Agor Blwch Derbyn

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).

Dewis Sgwrs

Cliciwch y Sgwrs rydych chi am ymateb iddi [1]. Cliciwch yr eicon Ymateb ym mhennyn y neges, neu hofran uwchben y stamp amser a chlicio'r eicon Ymateb yn y neges [2]. Gallwch hefyd glicio'r eicon Ymateb yn y bar offer [3].

Nodyn: Os oes mwy nag un derbynnydd, gallwch ymateb i bawb yn y sgwrs a bydd pawb sydd wedi'i gynnwys yn y sgwrs yn gweld eich ymateb.

Ymateb i Neges

Ymateb i Neges

Teipiwch eich ymateb yn y maes neges [1]. Gallwch atodi ffeil neu gyfryngau [2]. Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch y botwm Anfon (Send) [3].

Gweld Neges a Anfonwyd

Bydd eich neges yn ymddangos yn y rhagolwg o destun y sgwrs [1] ac ar frig yr edefyn unigol [2].