Sut ydw i'n cynhyrchu cod paru ar gyfer arsyllwr fel myfyriwr?

Fel myfyriwr, gallwch gynhyrchu cod paru er mynd cysylltu arsyllwr â'ch cyfrif Canvas. Rhaid i chi greu cod paru ar wahân ar gyfer pob arsyllwr sydd am gysylltu â'ch cyfrif. Am ragor o wybodaeth am y codau paru, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Codau Paru – Cwestiynau Cyffredin.

Gall eich arsyllwr fod yn rhiant, gwarcheidwad, mentor, cynghorwr, neu unigolyn arall sydd angen gweld eich cyrsiau Canvas. Mae modd i arsyllwyr sydd wedi'u cysylltu weld a chymryd rhan mewn rhai elfennau o'ch cyrsiau Canvas. Am ragor o wybodaeth am y rôl arsyllwr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Amlygrwydd a Chyfranogiad Arsyllwyr.

Sylwch: Os ydych chi’n arsyllwr, gallwch chi gopïo’r cod paru a chysylltu’r myfyriwr drwy roi’r cod yn eich Gosodiadau Defnyddiwr.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Paru ag Arsyllwr

Paru ag Arsyllwr

Cliciwch y botwm Paru ag Arsyllwr (Pair with Observer).

Sylwch: Os nad yw’r botwm Paru ag Arsyllwr yn ymddangos yn eich Gosodiadau Defnyddiwr, cysylltwch â’ch sefydliad i gael help gyda pharu ag arsyllwr.

Copïo Cod Paru

Copïo Cod Paru

Copïwch y cod paru chwe digid llythrennau a rhifau [1]. Bydd angen i chi rannu'r cod gyda'r arsyllwr fydd yn cysylltu â'ch cyfrif. Daw’r cod paru i ben ar ôl saith diwrnod neu ar ôl ei ddefnyddio unwaith.

I gau’r ffenestr, cliciwch y botwm Iawn (OK) [2].

Sylwch: Mae codau paru yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach/mawr.