Sut ydw i’n tanysgrifio i’r crynodeb Calendr gan ddefnyddio Outlook fel myfyriwr?

Gallwch chi danysgrifio i’r Crynodeb Calendr gan ddefnyddio Outlook ar eich dangosfwrdd. Bydd ffrwd y calendr yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas. Ar ôl i chi danysgrifio i’r crynodeb calendr, gallwch chi dynnu’r crynodeb calendr ar unrhyw adeg yn Outlook drwy agor y ddewislen Offer, clicio Gosodiadau Cyfrif, a dewis y tab Calendrau Rhyngrwyd.

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn gynharach o Outlook, efallai y bydd y camau hyn yn wahanol.

Gallwch chi hefyd danysgrifio i Grynodeb Calendr Canvas drwy ddefnyddio Outlook.com.

Nodiadau:

  • Bydd digwyddiadau hyd at 366 yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn allgludo calendr Canvas i Outlook. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
  • Mae Outlook yn diweddaru’n achlysurol ond gall gymryd hyd at 24 awr i gysoni â Canvas Calendar. Efallai na fydd diweddariad Canvas i’w weld yn syth yn Outlook.
  • Os yw eich sefydliad yn defnyddio cyfrif Microsoft Exchange Server, gallwch chi hefyd danysgrifio i’r crynodeb calendr drwy ddefnyddio’r Outlook Web App yn Exchange Server. Mae hyn yn gadael i chi gael gafael ar eich calendr Outlook ar-lein os ydych chi oddi wrth eich dangosfwrdd. Cysylltwch â gweinyddwr TG eich sefydliad i gael rhagor o wybodaeth.
  • Ar gyfer eitemau trefnydd, rhaid i apwyntiadau gael eu gweld yn y calendr Canvas i gael manylion llawn yr apwyntiad.
  • Nid yw eitemau I’w Gwneud wedi’u cynnwys yn ffrwd y Calendr iCal.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Agor Ffrwd Calendr

Agor Ffrwd Calendr

Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).

Copïo Ffrwd Calendr

Copïo Ffrwd Calendr

Cliciwch y ddolen ffrwd calendr.

Agor Calendr Outlook

Agor Calendr Outlook

Agor Outlook. Yn y bar ochr, cliciwch yr eicon Calendr [4].

Agor Calendrau Eraill

Agor Calendrau Eraill

De-gliciwch y ddolen Calendrau Eraill (Other Calendars).

Ychwanegu Calendr o’r Rhyngrwyd

Ychwanegu Calendr o’r Rhyngrwyd

Hofrwch eich llygoden dros Ychwanegu Calendr (Add Calendar) [1] a chlicio O’r Rhyngrwyd... (From Internet...) [2].

Cadarnhau Tanysgrifiad Calendr

Cadarnhau Tanysgrifiad Calendr

I gadarnhau eich bod chi eisiau ychwanegu’r calendr rhyngrwyd i Outlook a thanysgrifio i ddiweddariadau, cliciwch y botwm Iawn (Yes) [1]. I ffurfweddu’r opsiynau calendr, cliciwch y botwm Uwch (Advanced) [2].

0 Likes
Was this article helpful? Yes No