Beth ddylwn i’w wneud ar ddechrau a diwedd bob tymor fel gweinyddwr?

Mae’r wers hon yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chreu tymhorau, ychwanegu adrannau, a gorffen tymhorau.

Nodyn: Mae telerau cyfrifon consortiwm yn cael eu hetifeddu o’r cyfrif rhiant. Nid yw cyfrifon consortiwm plentyn yn gallu gweld na newid telerau.

Creu Tymor

Ar ddechrau’r tymor, gwnewch yn siŵr bod y tymor wedi’i greu. Os nad oes tymor, ni fydd gan y cyrsiau gartref. Dylai fod gan addysgwyr fynediad at y cyrsiau maen nhw’n eu dysgu cyn ac ar ôl y tymor. Ar ôl i’r tymor gael ei greu, bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth sy’n mynd i’r tymor yn cael ei ychwanegu’n awtomatig. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y ffeil SIS gyda thraws-restriadau, ymrestriadau, adrannau, a gwybodaeth y myfyriwr.

Os yw eich sefydliad yn defnyddio cyfnodau graddio, gallwch gysylltu tymor gyda set o gyfnodau graddio.

Ychwanegu Adrannau

Ychwanegu Adrannau

Y cam nesaf yw ychwanegu adrannau. Fel arfer, mae hyn yn digwydd drwy ffeiliau SIS. Mae’r Mewngludwr SIS yn dweud wrth Canvas sut i ddehongli’r ffeil XTM sy’n dod o’r ffeil SIS. Gall y ffeiliau XTM hynny gynnwys gwybodaeth am adran a/neu gwrs. I ychwanegu adran eich hun, yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau.

Mae Adrannau Cwrs yn creu enw byr cwrs drwy fabwysiadu enw’r adran (ee: DS-101 adran 001, a fydd yn creu cwrs gyda’r enw DS-101-001). Mae ymrestriadau’n awtomatig ac yn llifo rhwng meddalwedd a Canvas.

Nodyn: Mae adrannau’n symudol. Maen nhw’n hawdd i’w creu ac maen nhw’n gallu symud o dymor i dymor neu gwrs i gwrs. Byddwch yn ymwybodol bod mwy nag un adran (traws-restru), bod yr addysgwr yn gwybod i beidio â chreu’r cwrs nes bod yr wybodaeth wedi cael ei phrosesu drwy Canvas. Ar gyfer cyrsiau gyda traws-restriadau (DS-101-001, DS-101-002, DS-101-003), bydd Canvas yn dewis adran ar hap i fod yn brif adran. Er enghraifft, DS-101-003 yw’r adran y mae Canvas yn ei dewis i fod yn gwrs byw sy’n golygu mai dyma’r adran sydd angen ei hadeiladu. Fel arall, ni fydd gwaith caled yr addysgwr yno yn y cwrs byw. Mae hyn yn cael ei wneud gan ddigwyddiadau byw neu ffeiliau wedi’u llwytho i fyny mewn swp gennych chi.

Diwedd Tymor

Os yw dyddiadau cyfranogiad cwrs yn gysylltiedig â thymor penodol, dylai’r cwrs ddod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y tymor. Mae modd gosod dyddiadau cwrs y tu hwnt i ddyddiadau tymor os oes angen ymestyn y cwrs y tu hwnt i’r tymor. Gwnewch yn siŵr bod y graddau wedi’u cyhoeddi’n gywir a pharhewch i baratoi ar gyfer y tymor nesaf.