Sut ydw i’n ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at gyfrif?

Gallwch greu cyfarwyddiadau sgorio i addysgwyr eu defnyddio ar draws eich sefydliad. Gall addysgwyr ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio lefel cyfrif at aseiniadau, trafodaethau wedi’u graddio a chwisiau. Gall addysgwyr greu eu cyfarwyddiadau sgorio eu hunain yn eu cyrsiau hefyd.

Gall meini prawf cyfarwyddyd sgorio gynnwys ystod o bwyntiau neu werth pwynt unigol. Hefyd, gall cyfarwyddiadau sgorio gael eu gosod fel cyfarwyddiadau sgorio sydd ddim yn cadw sgôr, sy'n caniatáu'r defnydd o gyfarwyddiadau sgorio heb werthoedd pwyntiau.

Note: Ar hyn o bryd, does dim modd aildrefnu maen prawf ar ôl iddo gael ei ychwanegu at gyfarwyddyd sgorio.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).

Ychwanegu Teitl

Creu Teitl

Yn y maes Teitl (Title), ychwanegwch deitl ar gyfer y cyfarwyddyd sgorio. Mae’r teitl hwn yn helpu addysgwyr i adnabod y cyfarwyddyd sgorio fel bod modd ei gysylltu ag aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio neu gwis.

Golygu Disgrifiad o Faen Prawf

Golygu Disgrifiad o Faen Prawf

Mae’r cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys un cofnod maen prawf diofyn. I olygu’r disgrifiad o'r maen prawf, cliciwch yr eicon Golygu.

Note: Ar hyn o bryd, does dim modd aildrefnu maen prawf ar ôl iddo gael ei ychwanegu at gyfarwyddyd sgorio. Os ydych chi am arddangos meini prawf mewn trefn benodol, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu creu nhw yn y drefn honno.

Rhoi Ddisgrifiadau

Rhoi Ddisgrifiadau

Rhowch ddisgrifiad byr o’r maen prawf yn y maes Disgrifiad (Description) [1]. I ychwanegu disgrifiad hirach ar gyfer y maen prawf, rhowch ddisgrifiad hirach [2]. Bydd disgrifiad hirach yn rhoi mwy o wybodaeth i’r myfyrwyr am y maen prawf.  Cliciwch y botwm Diweddaru Maen Prawf (Update Criterion) [3].

Golygu Cyfanswm Gwerth y Pwyntiau

Golygu Cyfanswm Gwerth y Pwyntiau

Mae lefelau sgôr cyfarwyddyd sgorio yn 5 pwynt yn ddiofyn, sy'n rhoi 5 pwynt am farciau cyfarwyddyd sgorio llawn a 0 pwynt am ddim marciau cyfarwyddyd sgorio.

Os ydych chi am addasu cyfanswm gwerth pwyntiau’r maen prawf, rhowch nifer y pwyntiau yn y maes Pwyntiau (Points) [1]. Bydd y lefel sgôr gyntaf (marciau llawn) yn diweddaru i gyfanswm newydd gwerth y pwyntiau a bydd unrhyw lefelau sgôr cynyddol yn addasu fel y bo’n briodol [2].

Dewis Ystod

Dewis Ystod

Yn ddiofyn, mae lefelau sgôr cyfarwyddyd sgorio'n cael eu creu fel gwerthoedd pwynt unigol. Os ydych chi am greu ystod o bwyntiau yn lle hynny, cliciwch y blwch Ystod (Range) [1]. Mae ystodau’n caniatáu i chi neilltuo lefel sgôr ar gyfer ystod o opsiynau pwyntiau, yn hytrach na dim ond un gwerth pwynt.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd y lefel sgôr gyntaf (marciau llawn) yn dangos gwerth pwynt cyfan mewn fformat ystod [2]. Mae pob lefel sgôr yn dangos gwerth pwynt uchaf ac isaf. Ar gyfer pob lefel sgôr, caiff y gwerth mwyaf ei neilltuo fel gwerth y pwynt.

Ar wahân i ddangos gwerth yr ystod, mae ystodau maen prawf yn gweithio yn yr un ffordd â lefelau sgôr pwynt unigol. Er enghraifft, bydd ystod sy'n cynnwys uchafswm o bum pwynt ac isafswm o dri phwynt yn cael y gwerth pwynt cyflawn, sef pum pwynt.

Ychwanegu Lefelau Sgôr

Ychwanegu Lefelau Sgôr

I ychwanegu lefel sgôr newydd ar gyfer maen prawf, cliciwch yr eicon Ychwanegu.

Diweddaru Sgôr

Diweddaru Sgôr

Yn y ffenestr Golygu Lefel Sgôr (Edit Rating), rhowch ddisgrifiad ar gyfer lefel sgôr y maen prawf.

Yn ddiofyn, mae'r maes lefel pwyntiau newydd yn dangos y gwerth pwynt sydd rhwng y ddau ystod presennol [1]. I newid gwerth y pwyntiau ar gyfer lefel y sgôr, rhowch werth newydd ar gyfer y pwyntiau yn y maes Lefel y Sgôr (Rating Score). Gall pwyntiau fod yn rhifau cyfan (1, 5, 10) neu’n rhifau degol (0.3, 0.5, 2.75).

Yn y maes Teitl Lefel y Sgôr (Rating Title) [2], rhowch deitl ar gyfer lefel y sgôr.

Yn y maes Disgrifiad o Lefel y Sgôr (Rating Description) [3], rhowch ddisgrifiad ar gyfer lefel y sgôr.

Cliciwch y botwm Diweddaru Sgôr (Update Rating) [4].

Diweddaru Ystod Sgôr

Diweddaru Ystod Sgôr

Pan fydd ystodau wedi'u galluogi, bydd y Lefel Sgôr (Rating Score) yn dangos y gwerth pwynt sydd rhwng y ddau ystod presennol. I newid gwerth y pwyntiau ar gyfer lefel y sgôr, rhowch werth newydd ar gyfer y pwyntiau yn y meysydd Lefel y Sgôr (Rating Score).

Dylai gwerthoedd pwynt ystod sgôr fod yn rhifau cyfan.

Rheoli Maen Prawf

Rheoli Maen Prawf

I olygu lefel sgôr, cliciwch yr eicon Golygu [1]. Mae golygu gwerth lefel sgôr penodol yn effeithio ar werth pwynt cyfan y maen prawf. Os byddwch chi’n addasu gwerth pwynt lefel sgôr, bydd gwerth pob lefel sgôr yn addasu ac yn diweddaru gwerth y pwyntiau ar gyfer y maen prawf.

I ddileu lefel sgôr, cliciwch yr eicon Dileu [2]. Cofiwch nad oes modd dileu'r lefel sgôr gyntaf na'r olaf ar gyfer y maen prawf.

I ddileu’r maen prawf i gyd, cliciwch yr eicon Dileu ar y maen prawf [3].

Ychwanegu Maen Prawf

Ychwanegu Maen Prawf

I ychwanegu maen prawf arall, cliciwch y ddolen Ychwanegu Maen Prawf (Add Criterion) [1]. I greu maen prawf newydd, cliciwch yr opsiwn Maen Prawf Newydd (New Criterion) [2]. I ddyblygu maen prawf sy’n bodoli eisoes, cliciwch enw’r maen prawf rydych chi am ei ddyblygu [3].

I ddod o hyd i ddeilliant i gyd-fynd â'r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Dod o Hyd i Ddeilliant (Find Outcome) [4].

Note: Does dim modd golygu deilliannau'n uniongyrchol mewn cyfarwyddyd sgorio.

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Creu Cyfarwyddyd Sgorio (Create Rubric).

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld y cyfarwyddyd sgorio newydd.

I olygu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu [2].