Sut ydw i’n ychwanegu adnodd allanol at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) mewn cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch ddewis hyd at ddau adnodd allanol i’w dangos ym mar offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar gyfer pob defnyddiwr yn eich cyfrif. Bydd yr eiconau adnodd a ddewisir yn cael eu dangos wrth ymyl yr eicon Apiau.

Sylwch: Mae ychwanegu adnodd allanol at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) yn hawl cyfrif. Os na allwch chi ychwanegu adnoddau allanol at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae eich sefydliad wedi atal y nodwedd hon.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).

Gweld Ffurfweddiadau Ap

Cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).

Ychwanegu Adnodd at Far Offer RCE

Ychwanegu Adnodd at Far Offer RCE

Dewch o hyd i'r adnodd allanol rydych chi am ei ychwanegu [1] a chlicio'r togl cysylltiedig [2]. Dim ond ar gyfer adnoddau allanol sy’n gallu delio â lleoliad yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog y bydd y togl hwn yn dangos.

Dim ond hyd at ddau eicon adnodd allanol yn y bar offer y bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn gallu delio â nhw. Os bydd dau adnodd wedi’i ddewis, bydd pob togl arall yn cloi ac ni fydd modd eu galluogi [3].

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Bydd eiconau adnodd a ddewisir yn cael eu dangos wrth ymyl yr eicon Apiau yn y bar offer Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar gyfer pob defnyddiwr yn eich cyfrif.

Sylwch: Os bydd adnodd allanol yn cael ei ffurfweddu gan ddefnyddio allwedd LTI ac os nad yw’n cynnwys eicon yn y lleoliad Botwm Golygu, bydd eicon yr ap yn dangos gyda llythyren gyntaf enw’r adnodd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor).