Sut ydw i’n defnyddio Taith Groeso Canvas fel gweinyddwr?
Mae Canvas yn darparu taith groeso sy’n cynnig awgrymiadau cyflym i gychwyn arni gyda Canvas fel gweinyddwr.
Nodyn: Dim ond defnyddwyr gyda hawliau gweinyddwr cyfrif sy’n gallu gweld Taith Groeso Canvas. Nid yw gweinyddwyr is-gyfrifon yn gallu ei gweld.
Dechrau Taith Groeso Canvas

Ar ôl mewngofnodi i Canvas, gallwch chi weld neges fer am Daith Groeso Canvas.
Mae Taith Groeso Canvas yn dangos i chi sut i ychwanegu pobl a chyrsiau i Canvas, rhannu templedi a chynnwys cyrsiau ag athrawon, gosod fideo gynadledda ac adnoddau eraill a chael gafael ar adnoddau hyfforddiant a rhagor o gymorth.
I ddechrau Taith Groeso Canvas, cliciwch y botwm Dechrau Taith (Start Tour) [1].
I anwybyddu Taith Groeso Canvas, cliciwch y botwm Ddim Nawr (Not Now) [2] neu’r eicon Gadael (Exit) [3].
Nodyn: Bydd anwybyddu’r daith yn analluogi’r daith ar gyfer eich cyfrif.
Ailagor Taith Groeso Canvas

Os gwnaethoch chi anwybyddu Taith Groeso Canvas, gallwch chi ailagor y daith drwy glicio’r ddolen Help yn y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan [1] a chlicio’r ddolen Dangos Taith Groeso (Show Welcome Tour) [2].
Nodyn: Yn dibynnu ar eich sefydliad, efallai na fydd y ddewislen Help a’r dolenni o fewn y ddewislen Help yn ymddangos neu y byddan nhw’n ymddangos yn wahanol.
Ychwanegu Pobl a Chyrsiau at Canvas
Mae cam cyntaf y daith yn dangos y cyfrifon rydych chi’n weinyddwr arnyn nhw [1].
Ar ôl i gyfrif gael ei agor gallwch chi ddefnyddio’r adnoddau yn y neges Taith Groeso Canvas i ychwanegu cyrsiau unigol, ychwanegu defnyddwyr unigol, neu ychwanegu defnyddwyr, cyrsiau ac ymrestriadau swp drwy ffeiliau SIS wedi’u mewngludo.
I symud ymlaen i’r eitem nesaf ar y daith, cliciwch y botwm Nesaf (Next) [1].
I fynd yn ôl i eitem flaenorol ar y daith, cliciwch y botwm Blaenorol (Previous) [2].
Rhannu Cynnwys Cwrs a Thempledi

Mae’r ail gam ar y daith y darparu adnoddau am sut i ddefnyddio Commons a Blueprints.
I symud ymlaen i’r eitem nesaf ar y daith, cliciwch y botwm Nesaf (Next).
Gosod Fideo-gynadledda

Mae’r drydedd eitem ar y daith yn darparu adnoddau i ddysgu mwy am adnoddau fideo-gynadledda.
I symud ymlaen i’r eitem nesaf ar y daith, cliciwch y botwm Nesaf (Next).
Dod o hyd i Adnoddau hyfforddi a Chymorth
Mae’r eitem olaf ar y daith yn agor y ddewislen Helo ac yn darparu dolenni ar sut i gael gafael ar fideos hyfforddiant a chyrsiau [1].
I gwblhau’r daith, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [2].