Sut ydw i’n creu is-gyfrif?

Mae modd creu is-gyfrifon yn Canvas. Mae is-gyfrifon yn helpu i sefydlu strwythur hierarchaidd eich cyfrif a chynnwys cyrsiau ac ymrestriadau. Mae is-gyfrifon yn gallu cael eu creu gennych chi neu drwy ffeil SIS wedi’i mewngludo.

Gwyliwch fideo am Is-gyfrifon.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Is-gyfrifon

Agor Is-gyfrifon

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Is-gyfrifon (Sub-Accounts).

Dangos Cyfrifon

Dangos Cyfrifon

Cliciwch y saeth i lawr i ddangos is-gyfrifon.

Ychwanegu Is-gyfrif

Ychwanegu Is-gyfrif

Cliciwch y botwm Ychwanegu.

Teitl Is-gyfrif

Teitl Is-gyfrif

Rhowch deitl ar gyfer yr is-gyfrif yn y maes teitl. Pwyswch Return (ar fysellfwrdd Mac) neu Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Gweld Is-gyfrif

Gweld Is-gyfrif

Gweld yr is-gyfrif sydd wedi’i greu.