Sut ydw i’n golygu neu ddileu grŵp deilliannau mewn cyfrif?

Os gwnaethoch chi greu grŵp deilliannau yn eich cyfrif y mae angen i chi ei olygu neu ei ddileu, gallwch chi wneud hynny cyn belled â bod y deilliannau yn y grŵp heb gael eu defnyddio i asesu myfyriwr. Ar ôl i ddeilliant yn grŵp gael ei ddefnyddio i sgorio, allwch chi ddim dileu’r grŵp deilliannau. Gallwch chi addasu manylion y grŵp deilliannau.

Gallwch chi ddileu grŵp deilliannau cyn belled ag nad yw’n cynnwys unrhyw ddeilliannau nad oes modd eu haddasu.

Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae golygu neu ddileu grŵp deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hon, dysgwch sut mae golygu neu dynnu grŵp deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Nodyn: Gallwch chi addasu unrhyw ddeilliannau neu grwpiau deilliannau llle mae gennych chi hawl.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Dewis Grŵp Deilliannau

Dod o hyd i’r grŵp deilliannau rydych chi eisiau ei addasu.

Addasu Grŵp Deilliannau

I olygu grŵp deilliannau, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [1]. Mae golygu grŵp deilliannau yn gadael i chi newid enw a disgrifiad deilliant fel y cawsant eu gosod wrth greu grŵp deilliannau cyfrif.

I ddileu grŵp deilliannau, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2].

Nodyn: Os byddwch chi’n dileu grŵp deilliannau a bod y grŵp deilliannau’n creu gwall, mae eich grŵp deilliannau’n cynnwys deilliant nad oes modd ei addasu. Symudwch y deilliant i grŵp deilliannau arall, ac yna rhoi cynnig arall ar ddileu’r grŵp deilliannau.