Beth yw’r gwahanol rolau achosion yn y Consol Gweinyddu Maes?

Mae’r Consol Gweinyddu Maes yn cynnwys pum rôl achos cyffredin: Ceisydd, Perchennog, Cyswllt, CC, a Thîm yr Achos. Ceir manylion addasiadau ar gyfer rolau Ceisydd a CC yn y wers hon.

Ceisydd

Y Ceisydd yw’r unigolyn sy’n rhoi gwybod am broblem yn y lle cyntaf ac sydd angen help. O dan y tab Manylion Achos, gellir dod o hyd i wybodaeth am y Ceisydd o dan Enw’r Defnyddiwr ac E-bost y Defnyddiwr.

Gellir addasu Ceisyddion drwy ddiweddaru maes E-bost Gwe achos.

Nodwch: Os bydd achos yn cael ei greu heb werth yn y maes E-bost Gwe, bydd y cyfeiriad e-bost yn ymddangos fel replace.me@example.com. Mae’r cyfeiriad hwn yn nodi y dylid diweddaru’r maes cyn gynted â phosibl.

Perchennog

Y Perchennog yw’r unigolyn sy’n gyfrifol am yr achos. Gall Perchnogion drosglwyddo achosion i Weinyddwyr Maes eraill neu eu huwchgyfeirio i Dîm Cymorth Instructure.

Cyswllt

Y Cyswllt yw’r unigolyn sy’n hwyluso cyfathrebu â’r Ceisydd. Mewn achosion lle mai’r Gweinyddwr Maes yw’r Perchennog, mae’n ysgwyddo rolau Perchennog a Chyswllt. Os bydd yr achos hwnnw’n cael ei uwchgyfeirio i Instructure, yr asiant cymorth yw’r Perchennog ond bydd y Gweinyddwr Maes yn dal i fod yn Gyswllt. Mae’r trefniant hwn yn caniatáu i’r Gweinyddwr Maes i gael rhan weithredol yn yr achos tra bydd yn nwylo’r Tîm Cymorth.

CC (Copi Carbon)

CC (Copi Carbon)

Copi Carbon (CC) yw unigolyn sydd wedi cael ei ychwanegu at achos i dderbyn hysbysiadau am hynt achos penodol. Mae modd ychwanegu sawl unigolyn fel CC, ond rhaid eu hychwanegu fesul achos. Gellir ychwanegu CC at achos gan ddefnyddio’r maes Ychwanegu CC mewn achos.

Nodiadau:

  • Nid oes modd ychwanegu’r cyfeiriad e-bost support@instructure.com fel CC ar gyfer achos.
  • Os bydd achos yn cael ei greu ar e-bost, bydd unrhyw un sydd wedi’i gynnwys fel CC yn y neges e-bost wreiddiol yn cael ei ychwanegu’n awtomatig fel CC ar gyfer yr achos.

Tîm yr Achos

Tîm yr Achos

Mae Tîm yr Achos yn cynnwys cysylltiadau’r Cyfrif a Gweinyddwyr Maes a fydd yn derbyn hysbysiadau ar gyfer yr holl achosion o fewn cyfrif.