Sut ydw i’n mewngofnodi i’r Cosol Gweinyddu Cwmwl Maes.

Os ydych chi’n weinyddwr gyda’r hawliau cywir, gallwch chi fewngofnodi i’rr Consol Gweinyddu Maes a gweld tocynnau cymorth ar gyfer eich sefydliad.

Os byddwch chi’n gweld gwallau mewngofnodi, rhowch gynnig ar y camau datrys problemau canlynol:

  • Efallai y bydd angen i chi agoradminconsole.canvaslms.com yn yr un ffenestr porwr â lle rydych chi wedi mewngofnodi i Canvas.
  • Efallai eich bod chi wedi mewngofnodi i’r cofnod Canvas anghywir. Gwiriwch eich URL a rhoi cynnig arall arni.
  • Efallai eich bod chi wedi mewngofnodi i Canvas fel defnyddiwr anghywir. Allgofnodwch o Canvas a mewngofnodi fel y defnyddiwr cywir.
  • Does dim modd i chi gael eich gosod fel Gweinyddwr Maes. Cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer.

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

Gan ddefnyddio URL Canvas eich sefydliad, rhowch eich manylion Canvas a mewngofnodi i’ch cyfrif.

Agor Consol

Agor Consol

I fewngofnodi i’r Consol Gweinyddu Maes, rhowch adminconsole.canvaslms.com yn y maes URL mewn tab neu ffenestr porwr newydd.

Dewis Cyfrif

Dewis Cyfrif

Os oes gennych chi gyfrif gyda mwy nag un URL Canvas, efallai y bydd gofyn i chi ddewis y cyfrif rydych chi eisiau ei ddefnyddio i fewngofnodi.

Gweld Consol

Ewch i weld y Consol Gweinyddu Maes ar gyfer eich cyfrif. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio’r Consol Gweinyddu Maes.