Sut ydw i’n defnyddio’r dudalen deilliannau mewn cyfrif?

Defnyddir Deilliannau i olrhain meistrolaeth mewn cyfrif neu gwrs. Gallwch greu a rheoli deilliannau, creu grwpiau deilliant, mewngludo deilliannau a rheoli cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer cyfrif ar y dudalen deilliannau.

Mae’r wers hon yn dangos sut mae defnyddio’r dudalen Deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae defnyddio tudalen ddeilliannau’r cyfrif mewn cyfrif sydd wedi galluogi’r opsiwn nod....

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Gweld Deilliannau

Ar y dudalen deilliannau, gallwch greu deilliant newydd (create a new outcome) [1], creu grŵp deilliannau newydd (create a new outcome group) [2], a dod o hyd i ddeilliant (find an outcome) [3].

Os oes gennych chi hawl i wneud hynny, gallwch fewngludo deilliant (import an outcome) [4].

I weld manylion grŵp deilliant, cliciwch enw’r grŵp deilliant [5].

I weld deilliant, cliciwch enw’r deilliant [6].

Gweld Deilliant

I weld deilliant, cliciwch enw’r deilliant [1].

Gallwch weld disgrifiad o'r deilliant [2], graddau maen prawf [3], y pwyntiau sydd eu hangen er mwyn meistroli [4], y dull cyfrifo [5], ac eglurhad am y dull cyfrifo [6].

I weld eitemau sy’n gydnaws â’r deilliant ac arteffactau deilliant, cliciwch ar deitl y deilliant [7].

Nodyn: Os nad yw graddfeydd meistrolaeth a dulliau cyfrifo yn ymddangos ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi graddfeydd meistrolaeth a dulliau cyfrifo ar draws y cyfrif a/neu ar draws y cwrs.

Rheoli Deilliant a Grŵp Deilliant

Rheoli Deilliant

Gallwch symud [1],golygu [2], neu ddileu [3] deilliant neu grŵp deilliant.

Nodiadau:

  • Ni allwch ddileu deilliant sydd wedi cael ei ddefnyddio i asesu myfyrwyr.
  • Os bydd cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys deilliant sydd wedi cael ei ddefnyddio i asesu cyflwyniad, ni fydd golygiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r deilliant yn cael eu hadlewyrchu mewn asesiadau cyfarwyddyd sgorio blaenorol.