Sut ydw i’n rheoli tocynnau mynediad API fel gweinyddwr?

Gallwch chi reoli tocynnau mynediad API o’ch Gosodiadau Defnyddiwr. Mae tocynnau mynediad yn rhoi mynediad i adnoddau Canvas drwy API Canvas. Mae modd creu tocynnau mynediad yn awtomatig ar gyfer rhaglenni trydydd parti neu fynd ati’ch hun i’w creu.

Wrth ddefnyddio API Canvas, mae modd i'r sawl sydd â thocyn mynediad gael mynediad i’r un adnoddau Canvas sydd ar gael i chi. Er enghraifft, mae gan raglenni trydydd parti, gan gynnwys dyfeisiau rydych chi wedi’u defnyddio i agor ap symudol Canvas, yr hawl i gael mynediad i Canvas ar eich rhan. Mae galwadau API yn gofyn am awdurdodi ac maen nhw’n cael eu gwneud ar ran defnyddiwr wedi’i awdurdodi.  I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio API Canvas, edrychwch ar ddogfennau API Canvas.

Unwaith fod gennych chi fanylion mewngofnodi Canvas gallwch chi greu un o’r tocynnau mynediad hyn i’w defnyddio ar gyfer profi eich prosiectau datblygu. Rhaid i’r tocyn hwn gael ei gynnwys fel paramedr ymholiad URL mewn unrhyw alwadau API sy’n cael eu gwneud i Canvas.

Mae tocynnau Canvas yn cyfateb â hawliau Canvas. Os yw eich cyfrif Canvas wedi cael ei ddileu, bydd eich tocynnau’n cael eu gwrthod. Os nad oes gennych chi rôl weinyddol yn Canvas erbyn hyn, bydd y tocynnau rydych chi wedi’u creu’n flaenorol yn addasu i’ch hawliau newydd.

Nodyn:

  • Nid yw defnyddwyr gyda hawliau ffugio’n gallu tynnu’r tocyn ar ran defnyddwyr eraill.
  • Nid yw gweinyddwyr Canvas yn gallu dileu tocynnau mynediad API mewn swp ar gyfer defnyddwyr yn eu sefydliad.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Gweld Tocynnau Mynediad

Mae rhaglenni trydydd parti sydd â thocynnau mynediad a thocynnau mynediad sy’n cael eu creu gan ddefnyddiwr yn cael eu rhestru yn yr adran Integreiddiadau Cymeradwy (Approved Integrations) [1].

Ar gyfer pob tocyn mynediad, gallwch weld yr enw [2], pwrpas [3], dyddiad dod i ben [4], a dyddiad y cafodd ei ddefnyddio ddiwethaf [5].

Ychwanegu Tocyn Mynediad

Ychwanegu Tocyn Mynediad

I ychwanegu tocyn mynediad, cliciwch y botwm Ychwanegu Tocyn Mynediad Newydd (Add New Access Token).

Ychwanegu Manylion Tocyn

Ychwanegu Manylion Tocyn

Rhowch ddisgrifiad o’ch tocyn mynediad yn y maes Pwrpas (Purpose) [1]. Hefyd, gallwch chi ddewis dyddiad dod i ben drwy glicio’r eicon Calendr (Calendar) [2]. I greu tocyn heb ddyddiad dod i ben, gadewch y maes Dod i Ben yn wag.

I greu tocyn mynediad newydd, cliciwch y botwm Creu Tocyn (Generate Token) [3].

Gweld Tocyn Mynediad

Gweld Tocyn Mynediad

Gallwch weld y disgrifiad o’r tocyn [1]. I weld manylion y tocyn , cliciwch y ddolen manylion (details) [2].

Gweld Manylion Tocyn

Gweld Manylion Tocyn

Mae manylion tocyn mynediad yn cynnwys tocyn mae modd ei ddefnyddio i wneud galwadau API ar eich rhan [1].

I ail-greu tocyn mynediad, cliciwch y botwm Ail-greu Tocyn (Regenerate Token) [2].

Dileu Tocyn Mynediad

Dileu Tocyn Mynediad

I ddileu tocyn mynediad, cliciwch yr eicon Dileu (Delete).

Cadarnhau’r broses Dileu

Cadarnhau’r broses Dileu

I gadarnhau'r broses dileu, cliciwch y botwm Iawn (OK).