Sut ydw i’n rheoli themâu gyfer cyfrif?

Mae pob cyfrif Canvas yn dangos thema Canvas ddiofyn. Fel gweinyddwr, gallwch greu a rheoli themâu gyda thempledi Canvas, neu gallwch chi greu thema wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer eich sefydliad.

Mae brand personol yn cael ei gynnal ar lefel y cyfrif, ac yn ddiofyn, mae isgyfrifon a’u cyrsiau cysylltiedig yn etifeddu brand cwrs. Ond, gallwch chi ddewis caniatáu i isgyfrifon ddefnyddio’r Golygydd Thema i greu eu themâu personol eu hunain. Pan fydd y Golygydd Thema wedi'i alluogi ar gyfer isgyfrifon, bydd unrhyw elfen ddylunio nad ydynt yn eu newid yn benodol yn etifeddu’r dyluniad ar lefel y cyfrif.

Nodiadau:

  • Os ydych chi’n weinyddwr isgyfrif ac nad yw’r ddolen Themâu (Themes) yn ymddangos yn Newislen Crwydro’r Cyfrif, dydy’r nodwedd Themâu ddim wedi’i galluogi ar gyfer isgyfrifon.
  • Yn ddiofyn, mae cyfrifon plentyn consortiwm yn etifeddu’r thema sydd wedi’i gosod yn y cyfrif rhiant. Ond, mae cyfrif plentyn consortiwm yn gallu creu thema newydd ar gyfer cyfrif plentyn.
  • Os ydych chi am ddefnyddio brand arall nad yw'r Golygydd Thema yn gallu delio ag ef ar hyn o bryd, gallwch lwytho ffeiliau dalenni arddull rhaeadru (CSS) a JavaScript (JS) personol i fyny i’ch cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Themâu

Agor y Golygydd Thema

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Themâu (Themes).

Note: Os yw themâu isgyfrifon wedi cael eu galluogi, mae pob isgyfrif hefyd yn cynnwys dolen Themâu (Themes). I agor y Golygydd Thema ar gyfer isgyfrif, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts) i ganfod yr isgyfrif a’i agor, yna cliciwch ddolen Themâu (Themes) yr isgyfrif.

Gweld Adrannau’r Thema

Mae’r dudalen Themâu yn dangos pob templed sydd ar gael a'r themâu sydd wedi’u cadw ar gyfer eich sefydliad.

Mae pob thema ddiofyn ar gyfer Canvas i’w gweld yn yr adran Templedi (Templates) [1]. Mae templedi diofyn yn cael eu defnyddio fel man cychwyn i weinyddwyr greu eu themâu eu hunain, a does dim modd eu dileu.

Ar ôl cadw thema yn y cyfrif, bydd y dudalen yn dangos yr adran Fy Themâu (My Themes) [2]. Mae Fy Themâu yn dangos pob thema sydd wedi’i chadw ar gyfer y cyfrif.

Agor Thema

I agor a gweld unrhyw thema, ewch ati i hofran dros y thema a chlicio’r botwm Agor yn y Golygydd Thema (Open in Theme Editor).

Creu Thema

I greu thema, agorwch y templed o’ch dewis a'i addasu [1], neu cliciwch y botwm Ychwanegu Thema (Add Theme) [2]. Hefyd, gallwch greu thema yn seiliedig ar dempled sydd wedi'i gadw.

Gweld Thema Bresennol

Pan fydd thema wedi'i chysylltu â chyfrif, bydd y thema’n cael ei marcio fel y thema bresennol. Mae'r thema bresennol yn cynnwys bar gwyrdd ac eicon tic o dan enw'r thema. Os oes gan gyfrif fwy nag un thema, y thema weithredol fydd yn cael ei dewis yn gyntaf.

I ddefnyddio thema wahanol, agorwch a defnyddiwch unrhyw thema arall wedi’i chadw neu greu thema newydd ar gyfer y cyfrif.

Gweld Mwy nag un Thema Weithredol

Os bydd mwy nag un thema yn dangos eicon gwybodaeth [1], bydd pob thema’n cynnwys yr un set o werthoedd sy'n cael eu rhoi ar waith yn y thema bresennol. I ddileu un o’r themâu, chwiliwch am y thema a chlicio’r eicon Dileu.

Dileu Thema

I ddileu thema wedi'i chadw, cliciwch yr eicon Dileu.

Note: Does dim modd dileu'r thema bresennol. I ddileu’r thema bresennol, agorwch a defnyddiwch unrhyw thema arall wedi’i chadw neu greu thema newydd ar gyfer y cyfrif.