Sut ydw i’n addasu Dewislen Help Canvas ar gyfer cyfrif?

Mae’r ddewislen Help yn cynorthwyo defnyddwyr yn eich sefydliad drwy ddangos rhestr o adnoddau help Canvas. Yn dibynnu ar eu rôl, mae modd i ddefnyddwyr weld hyd at wyth opsiwn help diofyn. Fel gweinyddwr, gallwch aildrefnu neu guddio dolenni diofyn yn y ddewislen Help. Hefyd, gallwch ychwanegu dolenni help personol ar gyfer eich sefydliad a phenderfynu a ddylen nhw fod ar gael i bob defnyddiwr neu i rolau defnyddiwr penodol. Gallwch chi amlygu dolenni drwy ychwanegu Label Newydd i ddolen neu drwy nodi’r ddolen yn y ddewislen Help.

Hefyd, gallwch newid y testun a’r eicon Help sy'n ymddangos yn Canvas.

Mae’r erthygl hwn yn dangos sut i gael mynediad at Opsiynau’r Ddewislen Help yn syth o’r Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan. Ond, gallwch hefyd gael mynediad at opsiynau’r ddewislen Help yng Ngosodiadau’r Cyfrif.

Nodiadau:

  • Dim ond ar lefel y cyfrif y mae modd addasu dewislen Help Canvas, ac maen nhw’n cael eu rhoi ar waith ar bob isgyfrif yn awtomatig. Wrth agor y ddewislen Help, dim ond gweinyddwyr all weld y ddolen addasu.
  • Does dim modd addasu’r ddewislen Help mewn cyfrifon Am-Ddim-i-Athrawon
  • Mae dolenni’r ddewislen Help hefyd yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn cael mynediad at y ddolen Help yn y dudalen Mewngofnodi. Fodd bynnag, dydy’r ddolen Gofyn cwestiwn i’ch addysgwr a’r ddolen Gofyn i’r Gymuned byth yn rhan o’r ddewislen Help yn y dudalen Mewngofnodi gan nad yw’r dudalen Mewngofnodi yn cysylltu defnyddiwr â rôl.
  • Mae’r ddewislen Help yn cynnwys dolen Dangos Taith Groeso sy’n rhoi taith groeso fyr i Weinyddwyr, Addysgwyr, a Myfyrwyr. Does dim modd analluogi’r ddolen hon.
  • Mae modd ychwanegu dolenni nodiadau rhyddhau at y Ddewislen help drwy alluogi’r opsiwn nodwedd Nodiadau Rhyddhau wedi’u Plannu. Pan fo’r opsiwn nodwedd hwn wedi’i alluogi, nid oes modd addasu’r nodwedd hwn yng Ngosodiadau’r Cyfrif.

Addasu'r Ddewislen Help

Mynediad at Gyfrif

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dewislen Help (Help Menu) [1], yna cliciwch y ddolen Addasu’r ddewislen hon (Customize this menu) [2].

Gweld Opsiynau’r Ddewislen Help

Gweld Opsiynau’r Ddewislen Help

Yn y tab Gosodiadau, dewch o hyd i'r adran Opsiynau’r ddewislen Help (Help menu options).

Addasu Enw

Addasu Enw

Yn ddiofyn, mae testun dewislen help Canvas yn ymddangos fel Help. I newid y testun, rhowch yr enw newydd yn y maes testun.

Mae enw’r ddewislen Help i’w weld yn y Ddewislen Crwydro'’r Safle Cyfan, ar waelod y dudalen mewngofnodi, ac yn y bar dewislenni ar frig y dudalen yn SpeedGrader. Ni ddylai’r enw fod yn hirach na 30 nod.

Addasu Eicon

Addasu Eicon

Yn ddiofyn, mae’r eicon Crwydro’r adran Help yn ymddangos fel marc cwestiwn. I newid yr eicon crwydro, dewiswch eicon arall o’r set eicon sydd wedi’i chynnwys. Mae border sgwâr yn ymddangos o amgylch yr eicon a ddewiswyd.  

Ar hyn o bryd, dim ond yn y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan y mae’r eicon crwydro’n ymddangos. Er mwyn helpu’r defnyddwyr gymaint â phosib, dylai’r eicon crwydro gyd-fynd ag enw’r ddewislen Help.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).