Sut ydw i’n gweld pa hysbysiadau sydd wedi cael eu hanfon at ddefnyddiwr mewn cyfrif?
Gallwch chi weld yr hysbysiadau sydd wedi’u derbyn gan fyfyrwyr unigol gyda’r adnodd Gweld Hysbysiadau.
Nodyn: Rhaid i chi siarad â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer i alluogi’r nodwedd hon cyn y gallwch chi ei defnyddio. Ar ôl i’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer alluogi’r nodwedd hon, dylech chi alluogi’r hawl Gweld Hysbysiadau ar gyfer y rolau priodol.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Adnoddau Gweinyddol

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).
Agor Gweld Hysbysiadau

Cliciwch y tab Gweld Hysbysiadau (View Notifications).
Chwilio am Fyfyriwr

Yn y maes chwilio [1], teipiwch enw’r myfyriwr a chlicio’r botwm Canfod (Find) [2]. Cliciwch enw’r defnyddiwr [3]
Rhowch Ystod Dyddiadau

Creu'r ystod dyddiadau rydych chi eisiau ei chwilio. Gallwch chi roi dyddiadau yn y meysydd dyddiadau Dyddiad o a Dyddiad I [1], neu gallwch chi ddefnyddio’r eicon calendr i ddewis dyddiadau [2]. Yna cliciwch y botwm Canfod (Find) [3].