Sut ydw i’n dileu defnyddiwr o gyfrif?

Gallwch chi ddileu defnyddiwr o’ch cyfrif.

Nodiadau:

  • Os yw eich cyfrif yn rheoli gwybodaeth defnyddwyr drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), bydd yn rhaid i’r newidiadau gael eu gwneud yn yr SIS hefyd. Ni fydd unrhyw newidiadau fydd yn cael eu gwneud yn Canvas yn cael eu pasio’n ôl i’r SIS.
  • Mae gennych chi’r gallu i adfer defnyddiwr sydd wedi’i ddileu.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Dod o hyd i Ddefnyddiwr

Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.

Agor Proffil Defnyddiwr

Agor Proffil Defnyddiwr

Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.

Dileu Defnyddiwr

Dewch o hyd i’r ddolen Dileu o [teitl cyfrif] i ddileu’r defnyddiwr.

Cadarnhau’r broses Dileu

Ar ôl i chi glicio ar y ddolen dileu, bydd yn gofyn i chi ydych chi’n siŵr eich bod chi eisiau dileu’r defnyddiwr. Os ydych chi’n siŵr, cliciwch y botwm Dileu [Enw’r Defnyddiwr]

Nodyn: Bydd hyn yn tynnu data’r defnyddiwr (gan gynnwys graddau ac eBortffolios) o bob cwrs a grŵp.