Pa integreiddiadau ar gyfer y system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) sydd ar gael yn Canvas?

Mae Instructure yn gallu delio ag integreiddiadau sydd a sawl system gwybodaeth myfyrwyr (SIS). Efallai y bydd angen ffurfweddiad SFTP ar yr integreiddiadau hyn, neu efallai y byddan nhw’n denfyddio APIs sydd ar gael o LIS, SIF 2.0, a OneRoster 1.1 i rannu gwybodaeth rhwng SIS a Canvas. Dysgu mwy am integreiddiadau Canvas SIS.

Mae’r rhan fwyaf o integreiddiadau Canvas SIS yn gweithio’r ddwy ffordd:

  • Darpariaeth SIS i Canvas: Mae newidiadau i gofrestr SIS (diweddariadau i ddefnyddwyr, cyrsiau, ymrestriadau ac ati) yn cysoni â Canvas drwy drosglwyddo data un ffordd o SIS i Canvas, Mae amserlenni cysoni’r gofrestr yn cael eu ffurfweddu wrth eu gweithredu a gellir eu rheoli gan y gweinyddwyr.
  • Pasio Gradd yn ôl SIS i Canvas: Mae diweddariadau llyfr graddau ac aseiniadau Canvas yn cysoni â llyfr graddau SIS drwy drosglwyddo data un ffordd o Canvas i SIS. Mae addysgwyr yn gallu cysoni graddau eu hunain o Canvas i SIS. Mae sefydliadau hefyd yn gallu ffurfweddu amserlenni cysoni graddau awtomatig ar ôl eu gweithredu.

Am ragor o wybodaeth am integreiddiadau SIS, ewch i weld Grŵp Gweinyddwyr Canvas Community. Gallwch chi hefyd fynd i Grŵp Gweinyddwyr Cymuned Canvas.

Nodyn: Os nad yw SIS eich sefydliad wedi’i gynnwys yn y rhestr o integreiddiadau cydnaws ag Instructure, efallai y byddwch chi’n gallu ffurfweddu integreiddiad Canvas SIS. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â ffurfweddu integreiddiad Canvas SIS, cysylltwch â’ch Darparwr SIS.

Integreiddiadau SIS Cydnaws ag Instructure

Mae Instructure yn gallu delio ag integreiddiadau Canvas sydd â’r Systemau Gwybodaeth Myfyrwyr canlynol:

* Dydy’r integreiddiad hwn ddim yn gallu delio a phasio gradd yn ôl ar hyn o bryd.

Integreiddiadau SIS Eraill

Os nad yw Darparwr SIS eich sefydliad wedi’i restru uchod fel integreiddiad Cydnaws ag Instructure, efallai y bydd eich Darparwr SIS yn gallu integreiddio â Canvas. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch Darparwr SIS.

Neu, gallwch chi ddefnyddio Adnodd Mewngludo SIS i lwytho data SIS eich sefydliad i fyny i Canvas mewn swp. Dysgu mwy am Ddogfennau Fformat Mewnludo Canvas SIS a Dogfennau Canvas API.