Sut ydw i’n adfer cwrs wedi’i ddileu mewn cyfrif?

Mae gweinyddwr yn gallu adfer cyrsiau sydd wedi cael eu hailosod neu eu dileu. Rhaid i chi wybod rhif ID y Cwrs i adfer y cwrs. Os nad yw eich addysgwr yn gallu dod o hyd i rif ID y Cwrs, gallwch chi gael gafael ar fanylion defnyddiwr yr addysgwr a chwilio am ID y Cwrs o dan Ymweliadau â Thudalen. Mae modd dod o hyd i ID y Cwrs drwy edrych ar y rhif ar ddiwedd URL porwr ymweliad â thudalen yn y cwrs wedi’i ddileu (e.e. account.instructure.com/courses/XXXXXX).  

Mae adfer cwrs yn adfer URL blaenorol y cwrs a’i holl gynnwys. Ond, does dim modd adfer ymrestriadau.

Nodyn: Ni fydd defnyddio ID SIS yn adfer cwrs oni bai bod y cwrs wedi’i ddileu drwy SIS.  

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Adnoddau Gweinyddol

Agor Adnoddau Gweinyddol

Cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).

Dewis Math Adfer

Dewis Math Adfer

Yn y tab Adfer Cynnwys, cliciwch y gwymplen Dewis math adfer (Select a restore type) [1] a dewis yr opsiwn Cyrsiau (Courses) [2].

Gallwch chi hefyd adfer defnyddwyr wedi’u dileu [3].

Rhowch ID y Cwrs

Rhowch ID y Cwrs

Yn y maes ID y Cwrs (Course ID) [1], rhowch ID y cwrs y cwrs rydych chi eisiau ei adfer. Cliciwch y botwm Canfod (Find) [2].

Adfer Cwrs

Adfer Cwrs

Pan mae’r cwrs yn ymddangos, cliciwch y botwm Adfer (Restore).

Cadarnhau Adfer Cwrs

Cadarnhau Dad-ddileu Cwrs

Bydd Canvas yn cadarnhau eich bod chi wedi adfer eich cwrs.

I weld y cwrs, cliciwch y botwm Gweld Cwrs (View Course) [1]. I ychwanegu ymrestriadau defnyddiwr at y cwrs, cliciwch y botwm Ychwanegu Ymrestriadau (Add Enrollments) [2].