Sut ydw i’n creu grŵp deilliannau ar gyfer cyfrif?
Drwy grwpio deilliannau dysgu mewn cyfrif, mae modd trefnu nifer o ddeilliannau cysylltiedig.
Mae’r wers hon yn dangos sut mae creu grwpiau deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae creu grwpiau deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deillianna....
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Ychwanegu Grŵp Deilliannau
Cliciwch y botwm Grŵp Newydd (New Group).
Nodyn: Os nad yw’r botwm Deilliant Newydd i’w weld, efallai fod eich sefydliad yn defnyddio Gwell Rheoli Deilliannau.
Creu Grŵp Deilliannau
Rhowch enw grŵp Deilliannau Dysgu (Learning Outcome) yn y maes Enwi’r grŵp hwn (Name this group) [1]. Rhowch ddisgrifiad yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Gweld Grŵp Deilliannau
Gweld y grŵp Deilliannau. Gallwch chi greu deilliannau newydd yn y grŵp drwy greu deilliant newydd. Hefyd, gallwch symud deilliannau a grwpiau deilliannau i’r grŵp newydd.