Sut ydw i’n defnyddio’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi fel gweinyddwr?

Fel gweinyddwr, gallwch chi gael mynediad at y Porth Gwasanaethau Hyfforddi i gwblhau adnoddau hyfforddi yn ôl eich pwysau ar amrywiaeth o bynciau Canvas. Os oes gan eich sefydliad danysgrifiad hyfforddi y maen nhw’n talu amdano, efallai fod gennych chi fynediad at weminarau a hyfforddiant byw.

Nodiadau:

  • Dim ond i weinyddwyr, addysgwyr a dylunwyr neu ddefnyddwyr heb rôl wedi’i neilltuo y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael.
  • Dim ond i sefydliadau yng Ngogledd America y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael. Dylai sefydliadau yng Nghanada gysylltu â’u Rheolwr Llwyddiant Cwsmer i gael gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan.
  • Am gymorth i ddiweddaru eich Porth Gwasanaethau Hyfforddi, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer. 
  • Os nad yw dolen y Porth Gwasanaethau Hyfforddi yn ymddangos yn eich dewislen Help, rhaid i chi ei galluogi yng ngosodiadau’r cyfrif.

Agor y Ddewislen Help

Agor y Ddewislen Help

Yn newislen Crwydro’r Safle Cyfan Canvas, cliciwch y ddolen Help.

Nodyn: Yn ddibynnol ar eich sefydliad, efallai y bydd enw ac eicon y ddolen Help yn amrywio.

Agor Porth Gwasanaethau Hyfforddi

Agor Porth Gwasanaethau Hyfforddi

Cliciwch y ddolen Porth Gwasanaethau Hyfforddi (Training Services Portal).

Nodiadau:

  • Dim ond i weinyddwyr, addysgwyr a dylunwyr neu ddefnyddwyr heb rôl wedi’i neilltuo y mae’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi ar gael
  • Os nad yw dolen y Porth Gwasanaethau Hyfforddi yn ymddangos yn eich dewislen Help, rhaid i chi ei galluogi yng ngosodiadau’r cyfrif.

Awdurdodi Cyfrif

Awdurdodi Cyfrif

I ddefnyddio’r Porth Gwasanaethau Hyfforddi, rhaid i chi roi caniatâd i’r Porth Hyfforddi gael mynediad at eich cyfrif Canvas.

Mae dwy is-ffenestr yn ymddangos wrth ddefnyddio’r Porth Hyfforddi am y tro cyntaf. I roi caniatâd i ddefnyddio eich cyfrif cliciwch y botymau Caniatáu (Authorize). Yn y dyfodol, dim ond yr is-ffenestr Caniatáu Porth Hyfforddi Canvas fydd yn ymddangos.  

Nodyn: Os nad ydych chi wedi eich awdurdodi yn eich Fersiwn Canvas, byddwch chi’n cael eich ysgogi i roi eich URL Canvas cyn cael defnyddio’r Porth Hyfforddi.

Gweladwyedd Porth Hyfforddi

Yn ddiofyn, bydd defnyddwyr gyda hawliau gweinyddu yn gweld y Porth Hyfforddi fel gweinyddwr [1].

I weld y Porth Hyfforddi fel dysgwr, cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [2] a dewis yr opsiwn Dysgwr (Learner) [3].

Gweld Adroddiad Cwblhau

Yn ddiofyn, mae’r dudalen Data a Dadansoddiadau yn ymddangos.

Yn y tab Adroddiad Cwblhau [1], gallwch chi weld data cwblhau fel defnyddiwr wedi ymrestru [2], y cynnig [3], math [4], a’r statws cwblhau [5].

I greu adroddiad newydd cliciwch y botwm Adroddiad Newydd (New Report) [6].