Sut ydw i’n ymweld â hanes fy ymweliadau diweddar â thudalennau yn Canvas fel gweinyddwr?

Fel gweinyddwr, gallwch chi weld rhestr o’r tudalenau cwrs Canvas rydych chi wedi ymweld â nhw’n ddiweddar o'r ddolen Hanes yn y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan Mae’r rhestr Hanes Diweddar yn dangos hanes ymweliadau i dudalennau yn ystod y tair wythnos ddiweddaraf.

Nodiadau: 

  • Fel gweinyddwr, bydd gweithredu fel myfyriwr yn dangos hanes diweddar y myfyriwr, nid yr ymweliadau â thudalen rydych chi’n eu creu. 
  • Mae’r hanes tudalennau sydd i’w weld yn Hanes Diweddar yr un fath â’r wybodaeth yn ymweliadau tudalen defnyddiwr neu’r adroddiad mynediad defnyddiwr.
  • Fel gweinyddwr, mae eich Hanes Diweddar yn dangos rhestr o dudalenau rydych chi wedi’u gweld eich hun yn uniongyrchol mewn cyrsiau Canvas.
  • Nid yw hanes diweddar yn gweithio yn Canvas bets ac amgylcheddau prawf. Os byddwch chi’n agor Hanes Diweddar yn un o’r amgylcheddau hyn, bydd dolen i’r erthygl Canllawiau Canvas am ddefnyddio amgylcheddau prawf neu beta yn ymddangos.

Agor Hanes

Agor Hanes

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Hanes (History).

Gweld Hanes Diweddar

Gweld Hanes Diweddar

Mae Hanes Diweddar yn dangos rhestr o gynnwys cwrs a meysydd cynnwys rydych chi wedi ymweld â nhw yn y tair wythnos ddiwethaf. Mae ymweliadau â thudalennau wedi’u rhestru mewn trefn gronolegol gyda’r ymweliad diweddaraf â thudalen yn gyntaf. Mae eitemau rhestr yn dangos yr wybodaeth ddiweddaraf:

  • Eicon Gweithgarwch [1]: y nodwedd Canvas neu’r math o weithgarwch cwrs
  • Dolen Cwrs [2]: enw’r maes cynnwys cwrs neu enw’r eitem cynnwys
  • Enw’r Cwrs [3]: enw’r cwrs y gwnaethoch chi weld yr eitem ynddo; os yw wedi’i osod, bydd llysenw’r cwrs yn ymddangos.
  • Dyddiad Ymweld [4]: y dyddiad a’r amser y gwnaethoch chi ymweld â’r dudalen; os gwnaeth yr ymweliad a thudalen ddigwydd yn y 24 awr ddiwethaf bydd stamp amser o [n] awr yn ymddangos

Gweld Eiconau Hanes Diweddar

Gweld Eiconau Hanes Diweddar

Mae’r eiconau canlynol yn ymddangos yn Hanes Diweddar:

  • Hafan [1]: wedi ymweld â thudalen hafan cwrs
  • Cyhoeddiadau [2]: wedi ymweld â thudalen Cyhoeddiadau cwrs neu grŵp neu gyhoeddiad cwrs neu grŵp
  • Aseiniadau [3]: wedi ymweld â thudalen Mynegai Aseiniadau neu aseiniad
  • Tudalennau/Cydweithrediadau [4]: wedi ymweld â thudalen Mynegai Tudalennau cwrs neu grŵp, tudalen cwrs neu grŵp, neu gydweithrediad cwrs neu grŵp
  • Cynadleddau [5]: wedi ymweld â thudalen Cynadleddau cwrs neu grŵp
  • Trafodaethau [6]: wedi ymweld â thudalen Cyhoeddiadau cwrs neu grŵp neu gyhoeddiad cwrs neu grŵp
  • Ffeiliau [7]: wedi ymweld â thudalen Ffeiliau cwrs, grŵp, neu ddefnyddiwr neu ffeil cwrs, grŵp neu ddefnyddiwr
  • Graddau [8]: wedi ymweld â thudalen graddau myfyriwr, llyfr graddau cwrs neu aseiniad yn SpeedGrader
  • Modiwlau [9]: wedi ymweld â thudalen Modiwlau cwrs
  • Deilliannau [10]: wedi ymweld â thudalen Deilliannau cwrs
  • Pobl [11]: wedi ymweld â thudalen Pobl cwrs
  • Cwisiau [12]: wedi ymweld â thudalen Cwisiau Cwrs neu gwis
  • Adnoddau Allanol (LTI) [13]: wedi ymweld ag adnodd allanol o’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs neu wedi agor LTI yn y cwrs