Sut ydw i’n ychwanegu bathodynnau Cofrestr Presenoldeb at gyfrif?
Mae’r adnodd Cofrestr Presenoldeb yn cynnwys bathodynnau y gellir eu defnyddio i olrhain ymddygiadau neu gyflawniadau penodol ymysg eich myfyrwyr. Gallwch chi greu’r bathodynnau hyn ar lefel y cyfrif a byddan nhw’n ymddangos i addysgwyr gydaa chyrsiau yn eich cyfrif.
Gall addysgwyr greu eu bathodynnau eu hunain yn eu cyrsiau hefyd. Ond, gallwch chi reoli bathodynnau mewn unrhyw gwrs ar unrhyw adeg.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Presenoldeb
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Presenoldeb (Attendance).
Rheoli Bathodynnau
Cliciwch y tab Rheoli bathodynnau (Manage badges).
Ychwanegu Bathodyn
Cliciwch y botwm Ychwanegu Bathodyn (Add Badge).
Cadw Bathodyn
Ewch ati i greu enw ar gyfer eich bathodyn [1], neilltuo eicon [2], a dewis lliw i amlygu’r cefndir pan mae’r bathodyn yn cael ei neilltuo [3]. Cliciwch y botwm Cadw Bathodyn (Save Badge) [4].
Rheoli Bathodynnau
Gallwch chi olygu unrhyw fathodyn rydych chi’n ei greu ar gyfer eich cyfrif.
I newid enw, eicon, neu liw y bathodyn, cliciwch enw’r bathodyn [1].
I ddileu bathodyn, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2]. Bydd dileu bathodyn yn dileu’r bathodyn ar gyfer y cwrs cyfan a’r holl fyfyrwyr.
Nodyn: Wrth reoli neu olygu bathodynnau, bydd unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud yn effeithio ar y cyfrif cyfan.