Sut ydw i’n rheoli lleoliadau ap allanol ar gyfer cyfrif?

Gallwch reoli lleoliadau ar gyfer ap allanol yn eich cyfrif. Mae lleoliadau yn pennu lle gellir gweld a defnyddio ap yn Canvas.

Mae categorïau lleoliadau ap yn cynnwys crwydro’r cwrs, crwydro’r cyfrif, crwydro - defnyddiwr, cyflwyno gwaith cartref, botwm Golygydd Cynnwys Cyfoethog, dewis mudo, dewis dolenni (modiwlau), dewis aseiniad a Brig yr Adran Grwydro.

Gellir gosod lleoliadau fel gweithredol neu anweithredol wrth reoli lleoliadau ap. Mae lleoliadau gweithredol yn dangos yn y maes nodweddion Canvas a restrir yn y ddewislen Lleoliadau Ap. Mae lleoliadau anweithredol yn cael eu tynnu o’r maes nodweddion Canvas a restrir yn y ddewislen Lleoliadau Ap.

Nodiadau:

  • Dim ond i adnoddau LTI 1.1 y mae rheoli lleoliadau ap allanol yn berthnasol ar y dudalen Ffurfweddu Ap yn yr adran gosodiadau cyfrif.
  • Pan fydd wedi’i alluogi, mae’r opsiwn nodwedd Caniatáu Gosodiadau Toglo LTI yn gadael i chi ffurfweddu dangos adnodd LTI 1.3 mewn gwahanol leoliadau ar ryngwyneb y defnyddiwr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).

Gweld Ffurfweddiadau Ap

Gweld Ffurfweddiadau Ap

I ffurfweddu ap, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).

Agor Lleoliadau

Agor Lleoliadau

Dewch o hyd i’r ap allanol rydych chi am ei reoli [1]. Yna cliciwch y botwm Gosodiadau (Settings) [2] a dewis Lleoliadau (Placements) [3].

Nodyn: Pan fyddwch chi’n clicio’r ddolen Lleoliadau, mae’n bosib y byddwch chi’n gweld neges Dim Lleoliadau wedi’u Galluogi. Mae’r neges hon yn nodi nad oes gan yr ap unrhyw leoliadau penodol o fewn Canvas.

Gweld Lleoliadau

Gweld Lleoliadau

Mae'r ddewislen Lleoliadau Ap yn dangos yr holl leoliadau ar gyfer yr ap allanol [1]. Mae lleoliad gweithredol yn dangos yr eicon Tic [2]. Mae lleoliad anweithredol yn dangos yr eicon X [3].

Yn dibynnu ar yr adnodd LTI, gallai’r categorïau lleoliadau ap sydd ar gael amrywio. Mae'r categorïau lleoliadau ap canlynol ar gael ar gyfer rhai apiau allanol:

  • Dewis Aseiniad: Ffurfweddu adnodd LTI er mwyn gallu ei ddewis fel aseiniad yn ystod proses creu neu olygu aseiniad.
  • Botwm Golygu: Ffurfweddu adnodd LTI i ddangos fel botwm yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • Cyflwyno Gwaith Cartref: Ffurfweddu adnodd LTI i ddangos pan fydd myfyriwr yn cyflwyno cynnwys ar gyfer aseiniad. Pan fydd adnodd yn cael ei ffurfweddu, bydd defnyddwyr yn gweld tab ychwanegol pan fydd aseiniad yn cael ei gyflwyno ar gyfer aseiniadau sy’n cael eu derbyn ar-lein.
  • Dewis Dolenni: Ffurfweddu adnodd LTI i ddewis LTI i lansio URLs fel eitemau modiwl.
  • Crwydro: Ffurfweddu adnodd LTI i ddangos fel dolen ar gyfer crwydro cwrs, cyfrif neu ddefnyddiwr.
  • Dewis Mudo: Ffurfweddu adnodd LTI i ddangos yn y ddewislen Mewngludo Cwrs.
  • Dewis Math o Gyflwyniad: Ffurfweddu adnodd LTI i ddangos y gwymplen Math o Gyflwyniad wrth greu aseiniad.
  • Brig yr Adran Grwydro: Ffurfweddu adnodd LTI i arddangos y gwymplen Adnodd LTI ar Frig yr Adran Grwydro.

Rheoli Lleoliad

Rheoli Lleoliad

Cliciwch yr eicon Tic [1] i analluogi lleoliad gweithredol. Cliciwch yr eicon X [2] i alluogi lleoliad anweithredol.

Cliciwch y botwm Cau (Close) [3] i gau’r ddewislen Lleoliadau Ap.