Sut ydw i’n mewngludo deilliannau ar gyfer cyfrif?

Mae modd mewngludo swp o ddeilliannau ar gyfer eich cyfrif drwy ddefnyddio ffeil CSV. Drwy fewngludo mewn swp, gallwch ychwanegu deilliannau newydd at eich cyfrif neu ddiweddaru manylion nifer o ddeilliannau ar yr un pryd.

Rhaid i’r ffeil CSV fod wedi’i fformatio yn unol â'r Dogfennau Fformat Mewngludo Deilliannau. Os nad ydych chi am greu ffeil CSV newydd, mae modd i chi lwytho’r adroddiad Allgludo Deilliannau i lawr o Canvas, ei newid, a llwytho’r un ffeil eto i fyny eto.

Ar ôl i’ch ffeil CSV gael ei phrosesu, byddwch chi’n cael neges e-bost yn cadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i fewngludo neu'n dangos gwallau gyda’ch ffeil. Os cafwyd gwallau, bydd yr e-bost yn cynnwys manylion am y 100 gwall cyntaf, gan gynnwys rhes y gwall a disgrifiad byr ohono.

Nodiadau:

  • Mae mewngludo deilliannau yn gallu delio â ffeiliau CSV neu JSON.
  • Mae mewngludo deilliannau yn hawl cyfrif. Os nad oes gennych chi hawl i fewngludo deilliannau, mae eich sefydliad wedi rhwystro'r nodwedd hon.
  • Mewn deilliannau newydd, ni chaiff y maes vendor_guid gynnwys colon.
  • Yn dibynnu ar ddewisiadau eich sefydliad, mae’n bosib na fydd eich tudalen Deilliannau yn cyfateb i’r delweddau sydd yn y wers hon. Ond, bydd y ffordd y mae'r dudalen yn gweithio yn aros yr un fath.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Mewngludo Deilliannau

Mewngludo Deilliannau

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import).

Llwytho Ffeil i Fyny

Dylech lusgo a gollwng eich ffeil CSV yn yr ardal llwytho i fyny, neu cliciwch yr ardal llwytho i fyny i ddewis ffeil oddi ar eich cyfrifiadur.

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Dewch o hyd i'r ffeil CSV [1] ac yna cliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Gweld Statws Mewngludo

Mae Canvas yn dangos tudalen yn llwytho wrth i’r ffeil gael ei llwytho i fyny. Gall ffeiliau CSV mawr gymryd amser i’w mewngludo. Gallwch adael y dudalen Deilliannau (Outcomes) unrhyw bryd heb amharu ar y broses mewngludo.

Gweld Llwyddiant Mewngludo

Ar ôl i chi lwyddo i fewngludo’r ffeil, mae Canvas yn dangos neges yn cadarnhau hynny. Byddwch chi hefyd yn cael neges e-bost i ddweud eich bod wedi llwyddo i fewngludo.

Gweld Gwallau a Rhybuddion wrth Fewngludo

Os nad yw’r broses mewngludo wedi bod yn llwyddiannus, neu fod y broses fewngludo yn newid y deilliannau cyfredol, mae Canvas yn dangos neges gwall.

Mae'r neges gwall yn ymddangos ar gyfer gwallau wrth fewngludo deilliannau ac ar gyfer rhybuddion wrth fewngludo deilliannau.

Byddwch chi'n cael e-bost gyda manylion y 100 gwall a rhybudd cyntaf. Bydd pob gwall neu rybudd yn cynnwys rhif rhes y CSV a disgrifiad o’r gwall neu rybudd.

Mae gwallau mewngludo yn stopio'r broses fewngludo yn gyfan gwbl ac mae angen eu trwsio cyn bod modd mewngludo deilliannau'n llwyddiannus. Mae modd gweld gwallau fel hyn mewn ffeiliau CSV:

  • Penawdau gofynnol ar goll
  • Penawdau eraill yn eu gosod ar ôl pennawd y sgorau
  • Penawdau annilys
  • Meysydd gofynnol ar goll
  • Ffeiliau wedi’u mewngludo ddim yn cynnwys data
  • Testun UTF-8 annilys

Pan fydd rhybudd mewngludo, bydd Canvas yn anwybyddu'r rhes sydd wedi'i heffeithio ac yn parhau i fewngludo. Mae modd gweld rhybuddion fel hyn mewn ffeiliau CSV:

  • Pwyntiau ar goll mewn haenau sgorio
  • Gwerthoedd pwyntiau annilys mewn haenau sgorio
  • Pwyntiau yn y drefn anghywir mewn haenau sgorio
  • Math anghywir o wrthrych
  • Y grŵp rhieni'n cyfeirio at ddeilliannau coll
  • Grwpiau rhieni yn annilys
  • Cyflwr y llif gwaith yn annilys
  • Heb nodi dull dilysu cyfrifiadau
  • Mae’r grŵp yn cael meysydd annilys
  • Y gwaith o olygu deilliannau ddim yn yr un cyd-destun

Cywirwch y gwallau yn y ffeil CSV yn unol â'r Dogfennau Fformatio Mewngludo Deilliannau a rhowch gynnig arall ar fewngludo'r ffeil.

Gweld Deilliannau

Gweld y deilliannau sydd wedi’u mewngludo i’ch cyfrif.