Sut ydw i’n gosod y broses ddilysu sawl cam ar fy nghyfrif fel gweinyddwr?

Mae proses ddilysu sawl cam yn ychwanegu elfen o ddiogelwch at gyfrifon defnyddwyr yn eich sefydliad, gan y bydd yn gofyn i bob defnyddiwr i gadarnhau ei gyfrif. Gallwch alluogi proses ddilysu sawl cam ar gyfer eich sefydliad drwy gysylltu â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid. Gallwch ofyn am alluogi proses ddilysu sawl cam gydag un o dri opsiwn: gofynnol ar gyfer gweinyddwyr, gofynnol ar gyfer pob defnyddiwr, neu ddewisol ar gyfer pob defnyddiwr.

Rhaid bod gennych chi ddyfais symudol ar gyfer gosod proses ddilysu sawl cam ar eich cyfrif. Rhaid i'r ddyfais allu anfon negeseuon testun (SMS), neu os oes gennych chi ffôn clyfar gallwch chi lwytho ap Google Authenticator i lawr ar gyfer iPhone neu Android.

Sylwch: Mae'r wers hon yn dangos sut i osod proses ddilysu sawl cam os yw'n osodiad opsiynol yn eich cyfrif. Ond, os yw proses ddilysu sawl cam yn ofynnol yn eich sefydliad, byddwch chi’n gweld y dudalen dilysu sawl cam yn syth ar ôl mewngofnodi i Canvas.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Gosod y Broses Ddilysu Sawl Cam

Gosod y Broses Ddilysu Sawl Cam yn y Gosodiadau Defnyddiwr

Cliciwch y botwm Gosod y Broses Ddilysu Sawl Cam (Set Up Multi-Factor Authentication).

Dilysu gydag Ap Dilysu

Dilysu gyda Google Authenticator

I wirio’r broses ddilysu sawl cam gydag ap dilysu cyfrinair untro sy’n seiliedig ar amser (TOTP) ar iPhone neu Android (e.e. Google Authenticator, Microsoft Authenticator, Authy), llwythwch yr ap i lawr ar eich dyfais.

Defnyddiwch yr ap i sganio a chreu cod QR [1]. Rhowch y cod yn y maes Cod Cadarnhau (Verification Code) [2].

Os ydych chi am i'r broses ddilysu sawl cam gofio y cyfrifiadur rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas, cliciwch y blwch ticio Cofio'r cyfrifiadur hwn (Remember this computer) [3].

Cliciwch y botwm Cadarnhau (Verify) [4].

Cadarnhau drwy Neges Destun

Cadarnhau drwy Neges Destun

I wirio’r broses ddilysu sawl cam drwy neges destun, rhowch eich rhif ffôn [1] a dewiswch eich cludydd [2].  Dyma'r rhif y bydd eich cod dilysu sawl cam yn cael ei anfon ato.

Ar ôl i chi osod rhif ffôn newydd, neu ddewis rhif ffôn sy'n bodoli'n barod, cliciwch y botwm Anfon (Send) [3]. Bydd eich dyfais symudol yn derbyn cod cadarnhau. Rhowch y cod yn y maes Cod Cadarnhau (Verification Code) [4].

Os ydych chi am i'r broses ddilysu sawl cam gofio'r cyfrifiadur rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas, cliciwch y blwch ticio Cofio'r cyfrifiadur hwn (Remember this computer) [5].

Cliciwch y botwm Cadarnhau (Verify) [6].

Rheoli'r Broses Ddilysu Sawl Cam

Rheoli'r Broses Ddilysu Sawl Cam

Ar ôl galluogi'r broses ddilysu sawl cam, mae'n bosibl y bydd eich tudalen Gosodiadau Defnyddiwr yn dangos opsiynau ychwanegol i reoli eich proses ddilysu.

Rhag ofn nad yw eich dyfais dilysu ar gael, gallwch greu codau dilysu sawl cam fel opsiwn wrth gefn [1]. Mae'r opsiwn hwn ar gael i bob defnyddiwr sy’n defnyddio proses ddilysu sawl cam.

Os mai opsiynol yw proses ddilysu sawl cam ar gyfer eich cyfrif, gallwch ddewis i ail-ffurfweddu'r broses ddilysu [2] neu analluogi'r broses ddilysu [3].