Sut ydw i’n rheoli lluniau proffil ar gyfer defnyddwyr mewn cyfrif?

Os oes gan eich cyfrif luniau proffil wedi’u galluogi ar gyfer eich defnyddiwr, gallwch chi reoli pob llun proffil ar gyfer eich cyfrif. Mae lluniau proffil yn gyhoeddus ac yn cael eu cymeradwyo’n awtomatig pan mae defnyddwyr yn llwytho llun i fyny yn eu gosodiadau. Mae defnyddio lluniau proffil yn gallu ei gwneud yn haws i weld defnyddwyr yn eich cyfrif ac mae eu rheoli yn rhoi’r gallu i chi gadw’r lluniau’n briodol.

Os yw Gravatars wedi’u galluogi ar gyfer sefydliad yng ngosodiadau’r cyfrif a bod gan ddefnyddiwr Gravatar ond ei fod yn penderfynu peidio llwytho llun proffil i fyny, bydd y Gravatar yn ymddangos fel llun proffil y defnyddiwr.

Os bydd myfyriwr yn edrych ar fanylion defnyddiwr arall mewn cwrs ac yn nodi bod llun proffil yn amhriodol, gallwch chi adolygu’r lluniadu proffil a chymeradwyo, cloi, neu ddileu’r llun. Yn y cyrsiau, mae addysgwyr yn gallu tynnu lluniau proffil yn gyfan gwbl o dudalen manylion defnyddiwr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Rheoli Lluniau Proffil

Rheoli Lluniau Proffil

Cliciwch y ddolen Rheoli Lluniau Proffil (Manage Profile Pictures).

Gweld Lluniau Proffil

Gweld Lluniau Proffil

Gallwch chi weld a hidlo lluniau proffil yn ôl y categorïau canlynol:

  • Wedi cyflwyno [1]: lluniau mae defnyddwyr wedi’u cyflwyno ond sydd heb gael eu cymeradwyo neu eu dileu
  • Wedi riportio [2]: lluniau sydd wedi cael eu riportio
  • Wedi cymeradwyo, Wedi ail-riportio [3]: lluniau sydd wedi cael eu cymeradwyo a’u hail-riportio.
  • Pob un [4]: pob llun yn y cyfrif

Rheoli Llun Proffil

Ym mhob categori, gallwch chi reoli lluniau proffil unigol gyda dolenni i gymeradwyo, cloi, neu ddileu’r llun [1]. Mae cloi’r llun proffil yn golygu bod y llun wedi’i gymeradwyo ond nad oes modd i’r defnyddiwr newid y llun proffil. Mae modd datgloi lluniau proffil sydd wedi’u cloi ar unrhyw adeg.

Mae pob statws (heblaw am wedi cyflwyno) yn cynnwys eicon cysylltiedig [2]:

  • mae gan luniau proffil wedi’u cymeradwyo yn cynnwys tic
  • mae gan luniau proffil wedi’u cloi eicon clo
  • mae gan luniau proffil wedi’u riportio eicon rhybudd