Sut ydw i'n ychwanegu rôl lefel cwrs at y dudalen Hawliau?
Mae modd creu rolau lefel cwrs yn Canvas. Caiff rolau cwrs eu rhoi i bob defnyddiwr Canvas ac maent yn diffinio’r math o fynediad sydd gan bob defnyddiwr yn y cwrs. Mae rolau diofyn yn cynnwys myfyriwr, athro (addysgwr), cynorthwyydd dysgu, dylunydd, ac arsyllwr, ond gallwch chi hefyd greu rolau lefel cwrs personol yn dibynnu ar anghenion eich sefydliad.
Ar ôl creu rôl, mae modd rheoli hawliau lefel cwrs.
Nodiadau:
- Pan fydd defnyddiwr yn cael gwahoddiad i ymrestru ar gyfer rôl cwrs, bydd y gwahoddiad yn cynnwys enw’r rôl sylfaenol.
- Pan fyddwch chi’n newid hawl, gall gymryd 30 munud neu fwy i’r hawl hwnnw ddod i rym. Os nad yw’r newidiadau disgwyliedig yn ymddangos yn sych, rhowch gynnig arall arni mewn peth amser.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Hawliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Hawliau (Permissions).
Ychwanegu Rôl

Yn y tab Rolau Cwrs, cliciwch y botwm Ychwanegu Rôl (Add Role).
Ychwanegu Enw Rôl

Yn y maes Enw Rôl (Role Name), rhowch enw'r rôl newydd.
Dewiswch Fath o Ddefnyddiwr

Yn y maes Math Sylfaenol, dewiswch y math o ddefnyddiwr rydych chi eisiau ei roi yn y rôl. Gallwch chi ddewis o fyfyriwr, athro, cynorthwyydd dysgu, dylunydd, neu arsyllwr.
Bydd y rôl sylfaenol yn pennu’r hawliau diofyn ar gyfer y rôl defnyddiwr newydd.
Cadw Rôl

Cliciwch y botwm Cadw (Save).