Sut ydw i’n ychwanegu grwpiau i set grwpiau mewn cyfrif?

Mae creu grwpiau ar lefel cyfrif yn debyg i edrych ar grwpiau ar lefel cwrs. Bydd y grwpiau sydd wedi’u creu ar lefel cyfrif yn dal i’w gweld ar y Ddewislen Grwpiau yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan. Gallwch chi hefyd greu grwpiau ar lefel is-gyfrif.

Sylwch:

  • Mae gweld grwpiau defnyddwyr yn hawl cyfrif. Os na allwch chi weld grwpiau defnyddwyr, mae eich gweinyddwr wedi atal yr opsiwn hwn.
  • Er mwyn sefydlu grwpiau at ddibenion cydweithredu, byddai’n well gwneud hynny drwy greu cyrsiau a grwpiau o dan y lefel is-gyfrif briodol, gan na allwch chi neilltuo unigolion i is-gyfrifon os nad ydynt yn weinyddwyr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Gweld Grwpiau Defnyddwyr

Gweld Grwpiau Defnyddwyr

Cliciwch y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups).

Ychwanegu Set Grwpiau

Ychwanegu Set Grwpiau

Cliciwch y botwm Ychwanegu Set Grwpiau (Add Group Set).

Creu Set Grwpiau

Creu Set Grwpiau

Yn y maes Gosod Enw Grŵp (Group Set Name) [1], rhowch enw ar gyfer y grŵp. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Ychwanegu Grŵp

Yn y set grwpiau newydd [1], cliciwch y botwm Ychwanegu Grŵp (Add Group) [2].

Creu Grŵp

Creu Grŵp

Rhowch enw i’r grŵp drwy deipio’r enw yn y maes Enw’r Grŵp (Group Name) [1]. Os ydych am gyfyngu grwpiau i faint penodol, nodwch uchafswm nifer aelodau'r grŵp yn y maes Uchafswm Aelodaeth Grŵp (Group Membership Limit) [2]. I gadw'r grŵp, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Gweld y Grŵp

Gweld y grŵp yn eich set grwpiau.

I greu grŵp arall, cliciwch y botwm Ychwanegu Grŵp (Add Group).