Sut ydw i’n galluogi cyflwyniadau system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) ar gyfer cyfrif?
Pan fyddwch chi’n integreiddio system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) i gyrsiau yn Canvas, dim ond aseiniadau sy’n cael eu ffurfweddu’n awtomatig i anfon graddau i SIS; mae’n rhaid ffurfweddu cwisiau a thrafodaethau wedi’u graddio fesul achos. Fodd bynnag, ar lefel y cyfrif, gallwch ffurfweddu pob math o aseiniad i’w anfon i’ch SIS yn awtomatig.
Hyd yn oed ar ôl gosod yr holl aseiniadau i’w hanfon i’r SIS, bydd addysgwyr yn dal yn gallu rheoli aseiniadau yn eu cyrsiau a thynnu aseiniadau unigol, trafodaethau wedi’u graddio, neu gwisiau nad ydyn nhw am eu hanfon at eich SIS. Mae modd rheoli aseiniadau o’r dudalen Aseiniadau (Assignments) a’r dudalen Cwisiau (Quizzes), neu mae modd eu rheoli wrth greu aseiniad SIS, trafodaeth wedi’i graddio gan SIS, neu gwis SIS.
Sylwch:
- Rhaid i systemau gwybodaeth myfyrwyr gael eu ffurfweddu gan eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid (Customer Success Manager).
- Os yw’r opsiwn nodwedd Gosodiadau Integreiddio SIS Newydd (New SIS Integration Settings) wedi cael ei alluogi hefyd, rhaid i chi alluogi cyflwyniadau SIS drwy’r Gosodiadau Integreiddio SIS (SIS Integration Settings).
- Dysgwch fwy am ragolygon nodweddion yn y wers ar nodweddion cyfrifon.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Ffurfweddu Gosodiadau Allgludo Gradd SIS
Yn y tab Gosodiadau Cyfrif (Account Settings), dewch o hyd i’r adran Gosodiadau Allgludo Gradd SIS (SIS Grade Export Settings).
Os ydych chi am alluogi pob aseiniad cwrs, trafodaethau wedi’u graddio, a chwisiau i gael eu hanfon i’ch SIS, cliciwch y blwch ticio Cysoni Graddau ag SIS (Sync Grades to SIS...) [1]. Gallwch hefyd roi’r gosodiad ar waith ar gyfer is-gyfrifon drwy glicio’r blwch ticio Cloi’r gosodiad hwn ar gyfer is-gyfrifon (Lock this setting for sub-accounts) [2].
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).