Sut ydw i’n dad-ddirwyn cwrs mewn cyfrif?

Gallwch chi ddad-ddirwyn a dirwyn cwrs i ben. Er enghraifft, os oes gan addysgwr yr hawliau priodol i ddirwyn cwrs i ben cyn diwedd y tymor, bydd Canvas yn gosod dyddiad gorffen y funud honno ar gyfer y cwrs ac yn rhoi’r cwrs mewn cyflwr wedi’i archifo ar gyfer myfyrwyr ac addysgwyr. Ond, fel gweinyddwr, gallwch chi ddad-ddirwyn cyrsiau ar unrhyw adeg os angen ar addysgwr i gwrs gael ei adfer i’r cyfrif.

Nodiadau:

  • Pan fo cwrs yn cael ei ddad-ddirwyn, mae amser a dyddiad cyfranogiad y cwrs yn cael eu tynnu’n awtomatig.
  • Does dim modd i chi ddad-ddirwyn cwrs os ydy’r tymor wedi dirwyn i ben.  Mae angen i’r cwrs fod mewn tymor cyfredol er mwyn ei ddad-ddirwyn.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Dad-ddirwyn Cwrs

Dad-ddirwyn Cwrs

Cliciwch y botwm Dad-ddirwyn Cwrs (Unconclude Course).

Gweld Cadarnhad

Gweld Cadarnhad

Gwiriwch fod y cwrs wedi cael ei ddad-ddirwyn.