Sut ydw i’n ychwanegu gweinyddwr at gyfrif?
Gallwch ychwanegu defnyddiwr at gyfrif fel gweinyddwr yn y Gosodiadau.
Pan fyddwch chi’n gosod defnyddiwr fel gweinyddwr yn y cyfrif gwraidd, yna mae gan y defnyddiwr hwnnw’r un breintiau ym mhob isgyfrif. Efallai y byddech chi'n ystyried gosod defnyddwyr fel gweinyddwr dim ond yn yr isgyfrifon y maen nhw’n gyfrifol amdanynt.
Ar ôl i chi ychwanegu defnyddiwr, os oes ganddo broffil Canvas yn barod, bydd yn derbyn e-bost yn gadael iddyn nhw wybod eu bod nhw bellach yn weinyddwr ar gyfer y cyfrif. Os nad oes gan ddefnyddiwr sydd wedi’i ychwanegu broffil yn barod, byddan nhw’n derbyn e-bost gyda dolen i greu proffil a chael mynediad at y cyfrif.
Ar ôl i chi ychwanegu defnyddiwr fel gweinyddwr, allwch chi ddim golygu cyfrif defnyddiwr y gweinyddwr. I wneud newidiadau, rhaid i chi dynnu’r cyfrif gweinyddwr ac ychwanegu’r cyfrif defnyddiwr eto.
Nodiadau:
- I ychwanegu defnyddiwr fel gweinyddwr, rhaid i chi roi rôl cyfrif i’r defnyddiwr. Cyn ychwanegu defnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi creu'r rôl angenrheidiol ar lefel cyfrif.
- Mae eich rhestr defnyddwyr gweinyddol yn cynnwys yr API Fersiwn Amodol, y Gwasanaeth Deilliannau, a'r Gwasanaeth Cwisiau Newydd, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys pob cyfrif ar gyfer Llwybrau Meistroli, Deilliannau, a Chwisiau Newydd. Bydd y defnyddwyr API yn cael eu tynnu o’r rhestr mewn fersiwn yn y dyfodol.
Agor Cyfrif
![Agor Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/949/740/original/167b4d34-2e3f-4046-9aed-39673e67bdab.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
![Agor Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/745/032/original/ff428c32-6f44-41be-ac88-0d44cc4df8d8.png)
Yng Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Gweinyddwyr
![Agor Gweinyddwyr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/792/318/original/e735f0cc-d7db-4adc-9222-049a1d2d904f.png)
Cliciwch y tab Gweinyddwyr (Admins).
Ychwanegu Gweinyddwyr Cyfrif
![Ychwanegu Gweinyddwyr Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/792/316/original/5d5559ba-15a4-4224-a12b-6b2caf30e7ff.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Gweinyddwyr Cyfrif (Add Account Admins).
Ychwanegu Rôl Weinyddol ac E-bost
![Ychwanegu Rôl Weinyddol ac E-bost](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/792/314/original/3e45e578-60b8-4b2a-affc-13e7eedc9813.png)
Yn y gwymplen Ychwanegu Mwy (Add More) [1], gosodwch y math o rôl weinyddol. Y rôl weinyddol ddiofyn yn Canvas yw Gweinyddwr Cyfrif sydd â mynediad at bob hawl lefel y cyfrif. Gallwch hefyd greu rolau gweinyddol ar gyfer eich sefydliad a rheoli eu hawliau.
Yn y blwch testun [2], rhowch gyfeiriad e-bost y defnyddiwr.
Cliciwch i Barhau... (Continue) botwm [3].
Nodyn: Ar ôl i chi ychwanegu defnyddiwr fel gweinyddwr cyfrif, budd ganddyn nhw’r holl hawliau sydd wedi’u rhestru ar y dudalen Hawliau ar gyfer y rôl dan sylw. Yn ogystal, ni allwch chi olygu cyfrif gweinyddwr ar ôl i chi ei greu. Os oes angen i chi newid rôl defnyddiwr gweinyddwr, rhaid i chi ddileu eu cyfrif gweinyddwr a’i ychwanegu eto.
Ychwanegu Gweinyddwyr Cyfrif
![Ychwanegu Gweinyddwyr Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/792/322/original/3103fdee-77c0-41e6-9e21-c86ddf86c96b.png)
Gwnewch yn siŵr bod y defnyddiwr rydych chi wedi’i ychwanegu wedi’i nodi yn y maes gweinyddwyr [1]. Dewiswch y botwm Iawn, Ychwanegu’r Defnyddiwr [#] hwn (OK Looks Good, Add this [#] User) i ychwanegu’r gweinyddwr [2]. Cliciwch y ddolen Mynd yn ôl a golygu’r rhestr o ddefnyddwyr (Go back and edit the list of users) i addasu unrhyw wallau [3].
Bydd neges yn ymddangos yn eich porwr.
Dilysu Defnyddiwr Newydd
![Dilysu Defnyddiwr Newydd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/792/326/original/a7639201-725b-4893-b52e-98186ebcbf6d.png)
Gallwch ddilysu bod y defnyddiwr gweinyddol newydd wedi’i ychwanegu.