Sut ydw i’n gweld ac yn rheoli cynlluniau graddau mewn cyfrif?

Mae modd gweld a rheoli cynlluniau graddau eich cyfrif, gan gynnwys cynlluniau graddau rydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cyfrif. Mae modd i chi olygu, dyblygu, archifo, dad-archifo a dileu cynlluniau graddau hefyd, os oes angen.

Bydd unrhyw gynlluniau graddau sydd wedi’u creu yn eich cyfrif yn ymddangos mewn isgyfrifon.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adran Graddio

Agor yr adran Graddio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).

Agor Cynlluniau Graddau

Agor Cynlluniau Graddau

Cliciwch y tab Cynlluniau Graddau (Grading Schemes).

Gweld Cynlluniau Graddau

Mae'r dudalen Cynlluniau Graddau’n (Grading Schemes) dangos yr holl gynlluniau graddau ar gyfer eich cyfrif.

Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd

Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd

I ychwanegu cynllun graddau at gyfrif, cliciwch y botwm Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd (Add New Grading Scheme).

Rheoli Cynlluniau Graddau

I chwilio am gynllun graddau, rhowch yr enw yn y maes Chwilio... (Search...) [1].

I agor cynllun graddau, cliciwch enw’r cynllun graddau [2].

I osod cynlluniau graddau yn nhrefn yr wyddor (o’r dechrau i’r diwedd, neu o’r diwedd i’r dechrau), cliciwch yr eicon Saeth [3].

I weld y lleoliadau lle mae’r cynllun graddau’n cael ei ddefnyddio, cliciwch y ddolen Dangos cyrsiau ac aseiniadau (Show courses and assignments) [4].

I ddyblygu’r cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dyblygu (Duplicate) [5].

I olygu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [6].

I archifo cynllun graddau, cliciwch yr eicon Archifo (Archive) [7].

I ddileu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dileu [8].

I ddad-archifo ac adfer cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dad-archifo (Unarchive) [9].

Sylwch:

  • Nid yw golygu enw a disgrifiad o gynlluniau graddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn caniatáu golygu i ganrannau neu bwyntiau yn y cynllun graddau.
  • O ran cynllun graddau a sefydlwyd ar lefel y cwrs, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cyfrif.
  • O ran cynllun graddau a grëwyd ar lefel y cyfrif, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cwrs.
  • Dim ond cynlluniau graddau sydd heb gael eu defnyddio i raddio y mae modd eu golygu.
  • Os bydd cynllun graddau’n cael eu defnyddio i raddio myfyriwr mewn cwrs, ni fydd modd i chi ddileu’r cynllun o’r cyfrif.
  • Gall cynllun graddau sy’n cael ei ddefnyddio gael ei archifo ac yna ei adfer i gyflwr gweithredol.
  • Ni all cwrs neu aseiniad ddefnyddio cynllun graddio wedi’i archifo yn y dyfodol, oni bai fod y cynllun yn cael ei adfer.
  • Does dim modd archifo cynllun graddau diofyn Canvas.
  • Wrth gopïo neu allgludo cwrs, nid yw cynlluniau graddio diofyn wedi'u harchifo yn cael eu copïo na'u hallgludo.