Sut ydw i’n rheoli ceisiadau i ddiweddaru KB yn y Consol Gweinyddu Maes?

Mae asiantiaid cymorth Canvas yn gallu gwneud cais am ddiweddariadau i gofnod yn sylfaen wybodaeth (KB) eich sefydliad trwy’r Consol Gweinyddu Maes. Mae cais i ddiweddaru yn ymddangos ar dudalen hafan y Consol Gweinyddu. Gallwch chi weld ceisiadau i ddiweddaru, gwneud newidiadau, a thynnu’r cofnod o’ch rhestr o ddiweddariadau.

Nodyn: Gall nodweddion Consol Gweinyddu Maes amrywio yn ôl gosodiadau defnyddiwr a chyfrif. Ar sail yr hyn a ganiateir ar gyfer eich rôl, efallai na fyddwch yn gallu gweld na defnyddio’r nodweddion a ddisgrifir yn y wers hon.

Agor Cais i Ddiweddaru

Mae ceisiadau i ddiweddaru KB i’w gweld yn y rhestr Ceisiadau i Ddiweddaru KB (KB Update Requests) [1]. I agor cais i ddiweddaru, cliciwch enw’r cais [2].

I weld pob cais i ddiweddaru, cliciwch y ddolen Gweld Pob Un (View All) [3].

Gweld Cais i Ddiweddaru

Mae manylion diweddaru KB yn ymddangos yn yr adran Cais i Ddiweddaru (Update Request) [1].

Gweld dyddiad ac amser y cais yn y maes Dyddiad Cais i Ddiweddaru (Update Request Date) [2]. Gweld yr awgrym ychwanegu KB o Canvas Support yn y maes Cais i Ddiweddaru (Update Request) [3].

Golygu Cofnod KB

Mae diweddariadau KB yn gallu cael eu gwneud yn yr adran Manylion Cymorth Canvas (Canvas Support Details) [1].

I olygu eich cofnod KB, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) ar gyfer unrhyw faes [2].

Rhowch Fanylion Delio ag Achos

Rhowch Fanylion Delio ag Achos

Rhowch ddiweddariadau i’ch cofnod KB yn y meysydd Delio ag Achos Diofyn:

  • Mae’r maes Manylion ar gyfer Canvas Support (Details for Canvas Support) yn dangos unrhyw wybodaeth berthnasol o ran sut y dylai Canvas Support ddelio ag achosion cysylltiedig [1].
  • Mae’r maes Allweddeiriau (Key Words) yn dangos unrhyw dermau neu eiriau cysylltiedig y gall defnyddwyr eu defnyddio wrth gyflwyno achos sy’n gysylltiedig â’r cofnod KB [2].
  • Mae’r maes Manylion ar gyfer eich defnyddwyr (Details for your users) yn dangos ymateb wedi’i sgriptio y mae asiantiaid cymorth yn gallu ei ddefnyddio wrth ymateb i achosion cysylltiedig [3].

Bydd meysydd cofnod KB yn dangos border wedi’i amlygu ar ôl i unrhyw newidiadaau gael eu gwneud. I ddadwneud golygiadau cliciwch yr eicon Dadwneud (Undo) [4].

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

I dynnu’r cofnod KB o’r rhestr Ceisiadau i Ddiweddaru KB ar y dudalen hafan, cliciwch y blwch ticio Manylion wedi’u Diweddaru (Details Updated) [1].

I gadw eich newidiadau, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Nodiadau:

  • Bydd ticio’r blwch ticio Manylion wedi’u Diweddaru a chadw eich newidiadau hefyd yn clirio’r holl gynnwys o’r meysydd Ceisiadau i Ddiweddaru.
  • Wrth edrych ar eich KB, bydd asiantiaid cymoeth Canvas yn gallu gweld pryd y cafodd y newid diwethaf ei wneud i’r cofnod.