Pa opsiynau nodweddion alla i eu galluogi yn fy nghyfrif defnyddiwr fel gweinyddwr?
Mae rhai o nodweddion Canvas yn ddewisol neu’n newydd, a gellir eu galluogi neu eu hanalluogi yn eich cyfrif defnyddiwr. Bydd y mwyafrif o’r gwelliannau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’n cylch rhyddhau rheolaidd. Fodd bynnag, gall rhai nodweddion effeithio ar eich rhyngweithio personol â Canvas. Gallwch ddysgu mwy am yr Opsiynau Nodweddion ar gyfer Defnyddwyr a sut mae eu galluogi yn y wers rheoli opsiynau nodwedd.
Tiwtorial Creu Cwrs
Dydy’r nodwedd hon ddim ond i’w gweld os yw eich sefydliad wedi galluogi’r Tiwtorial creu cwrs Canvas (Canvas course setup tutorial). Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae’r gosodiad nodwedd Tiwtorial Creu Cwrs (Course Set-up Tutorial) yn gadael i chi weld y tiwtorial creu cwrs. Pan fo wedi’i alluogi, mae’r nodwedd hwn yn dangos tiwtorial ym mhob tudalen mynegai Crwydro’r Cwrs sy’n dangos pwrpas y dudalen a beth i’w wneud nesaf. Mae’r tiwtorial yn berthnasol i bob un o’ch cyrsiau yn canvas lle rydych chi wedi eich ymrestru fel addysgwr.
Analluogi Terfynau Amser Hysbysiadau Rhybudd
Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae’r gosodiad nodwedd Analluogi Terfynau Amser Hysbysiadau Rhybudd (Disable Alert Notification Timeouts) yn cael gwared â therfyn amser hysbysiadau rhybudd sy’n ymddangos. Pan fo’r gosodiad nodwedd ond wedi’i galluogi, bydd hysbysiadau rhybudd yn Canvas i’w gweld neu eich bod chi’n diystyru’r rhybudd eich hun.
Analluogi Animeiddiadau Dathlu
Dydy’r nodwedd hon ddim ond i’w gweld os yw eich sefydliad wedi galluogi conffeti ar gyfer dolenni dilys (confetti for valid links). Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae’r gosodiad nodwedd Analluogi Animeiddiadau Dathlu (Disable Celebration Animations) yn gadael i chi analluogi’r animeiddiadau dathlu sy’n ymddangos pan fyddwch chin rhedeg y dilysydd dolen mewn cwrs. Pan fo wedi’i alluogi, ni fydd animeiddiadau dathlu yn ymddangos yn Canvas.
Analluogi Bysellau Hwylus
Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae’r gosodiad nodwedd Analluogi Bysellau Hwylus (Disable Keyboard Shortcuts) yn gadael i chi analluogi bysellau hwylus mewn Modiwlau, Trafodaethau, y Llyfr Graddau, a SpeedGrader. Bydd rhannau eraill o Canvas yn cael eu diweddaru yn y dyfodol.
Mae’r gosodiad hwn yn gadael i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrin neu fysellau crwydro reoli eu profiad yn Canvas gyda bysellau hwylus.
Rhyngwyneb y defnyddiwr â chyferbyniad uchel
Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae'r gosodiad nodwedd Rhyngwyneb Defnyddiwr â Chyferbyniad Uchel (High Contrast UI) yn caniatáu i chi weld Canvas gan ddefnyddio arddulliau cyferbyniad uchel. Mae’r nodwedd hon yn gwella cyferbyniad lliw y rhyngwyneb defnyddiwr (testun, botymau, ayb.) fel eu bod yn fwy clir ac yn haws eu hadnabod yn Canvas. Fodd bynnag, does dim modd delio â brand y sefydliad pan fydd y nodwedd hon wedi’i galluogi, felly ni fyddwch yn gallu gweld logo’r sefydliad nac elfennau eraill.
Darllenydd Ymdrwythol Microsoft
Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae Darllenydd Ymdrwythol Microsoft yn gwella hygyrchedd a dealltwriaeth ar gyfer unrhyw ddarllenydd. Pan font wedi’u galluogi mae tudalen hafan y cwrs, aseiniadau, tudalennau, a maes llafur yn dangos botwm Darllenydd Ymdrwythol.
Mae Darllenydd Ymdrwythol Microsoft ar gael i chi ei alluogi’n unigol, beth bynnag yw’r dewisiadau sydd wedi’u gosod ar lefel y cyfrif. Ond, os nad yw’r nodwedd ymlaen ar gyfer y cyfrif cyfan, mae dewis y cyfrif yn disodli eich dewis fel defnyddiwr, ac ni fydd eich gosodiad defnyddiwr yn cael unrhyw effaith.
I ddysgu mwy am y nodwedd hon ewch i wefan Darllenydd Ymdrwythol Microsoft.
Tanlinellu Dolenni
Mae’r nodwedd hon Wedi'i Diffodd yn ddiofyn.
Mae’r gosodiad nodwedd Tanlinellu Dolenni (Underline Links) yn caniatáu i chi weld dolenni rhyngwyneb Canvas fel testun wedi'i danlinellu. Pan fydd wedi’i galluogi, bydd y nodwedd hon yn tanlinellu hyperddolenni mewn dewislenni crwydro, ar y Dangosfwrdd ac mewn barrau ochr ar dudalennau. Dydy’r gosodiad hwn ddim yn berthnasol i ddolenni cynnwys sy’n cael eu creu gan ddefnyddiwr yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, sydd bob amser yn tanlinellu dolenni ar gyfer pob defnyddiwr.
Dewisiadau Gwahanydd CSV
Gallwch osod sut rydych am weld gwahanyddion mewn ffeiliau allgludo CSV, yn dibynnu ar eich lleoliad neu ddewis.
Mae gosodiadau gwahanyddion yn cael eu rheoli trwy un o dri gosodiad nodwedd yng Ngosodiadau Defnyddiwr. Dydy’r gosodiadau hyn ddim ond yn berthnasol ar gyfer ffeiliau allgludo taenlenni cydnaws.
Canfod Gwahanyddion Meysydd yn Awtomatig mewn Ffeiliau Allgludo Taenlenni Cydnaws
Mae'r gosodiad nodwedd Canfod gwahanyddion meysydd yn awtomatig (Autodetect field separators) yn ceisio dewis y gwahanydd maes priodol fel y nodir gan y dewis iaith yng nghyfrif y defnyddiwr. Ar gyfer ieithoedd ble mae'r gwahanydd degol yn ddot, (e.e. 1,234.56) bydd y nodwedd canfod yn awtomatig yn dewis coma fel gwahanydd maes. Ar gyfer ieithoedd ble mae'r gwahanydd degol yn goma, (e.e. 1.234,56) bydd y nodwedd canfod yn awtomatig yn dewis hanner colon fel gwahanydd maes. Ar gyfer pob achos arall, bydd y nodwedd canfod yn awtomatig yn dewis coma fel gwahanydd maes yn ddiofyn.
Sylwch: Mae'r nodwedd hon wedi ei hanalluogi'n awtomatig os yw'r gosodiad Defnyddio hanner colon i wahanu meysydd wedi'i alluogi.
Cynnwys Marc Trefn Beitiau mewn Ffeiliau Allgludo Taenlenni Cydnaws
Mae'r gosodiad nodwedd Cynnwys Marc Trefn Beitiau (Include Byte-Order Mark) yn cynhyrchu cyfres benodol o dri nod ar ddechrau'r ffeil CSV. Mae'r nodau hyn, a elwir yn farc trefn beitiau, yn helpu rhai fersiynau o Microsoft Excel i ddeall bod y ffeil CSV yn ffeil UTF-8 wedi amgodio. Mae hefyd yn dweud wrth rai fersiynau lleol o Excel bod angen iddyn nhw drin ffeil CSV fel un sydd wedi'i gwahanu â hanner colon, a hynny'n ddiofyn. Gan nad yw rhai fersiynau o Excel yn deall nac yn cydnabod y marc trefn beitiau, mae'r adnodd hwn yn gadael i ddefnyddwyr analluogi cynhyrchu marc trefn beitiau.
Defnyddio Hanner Colon i Wahanu Meysydd mewn Ffeiliau Allgludo Taenlenni Cydnaws
Mae'r gosodiad nodwedd Defnyddio hanner colon i wahanu meysydd (Use semicolons to separate fields) yn cynhyrchu ffeiliau CSV sydd â hanner colon yn gwahanu meysydd yn hytrach na'r coma diofyn. Pan fydd wedi'i analluogi, bydd yr adnodd hwn yn ymddwyn yn unol â chyflwr y gosodiad Canfod gwahanyddion meysydd yn awtomatig.
Sylwch: Mae'r nodwedd hon wedi ei hanalluogi'n awtomatig os yw'r gosodiad Canfod gwahanyddion meysydd yn awtomatig wedi'i alluogi.