Sut ydw i’n gweld gweithgarwch cwrs ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi greu cofnod gweithgarwch cwrs ar gyfer cwrs yn eich cyfrif. Mae’r cofnod hwn yn cynnwys trosolwg gyda stamp amser o holl weithgarwch cwrs, gan gynnwys enw’r defnyddiwr, math o weithgarwch, ffynhonnell, a dolen i weld manylion y gweithgarwch.

Nodiadau:

  • Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon weld gweithgarwch cwrs yn yr Adnoddau Gweinyddol.
  • Mae gweithgarwch cwrs yn storio data cwrs am hyd at flwyddyn.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Adnoddau Gweinyddol

Agor Adnoddau Gweinyddol

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).

Agor Cofnodi

Agor Cofnodi

Cliciwch y tab Cofnodi (Logging).

Dewis Math o Gofnod

Dewis Math o Gofnod

O’r gwymplen math o gofnod, dewiswch yr opsiwn Gweithgarwch Cwrs (Course Activity).

Chwilio yn ôl Enw Cwrs neu ID Cwrs

Chwilio yn ôl Enw Cwrs neu ID Cwrs

Chwilio yn ôl ID Cwrs (Course ID) neu enw cwrs [1]. Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID cwrs ar ddiwedd eich URL cwrs (e.e. canvas.instructure.com/courses/XXXXXX).

Ar ôl i chi ddechrau teipio gwybodaeth y cwrs, bydd Canvas yn creu rhestr gwymplen o gyrsiau Canvas sy’n cyfateb. Mae canlyniadau’n seiliedig ar gofnodion maes dilys, felly os nad oes canlyniadau’n ymddangos (yn enwedig drwy chwilio yn ôl enw), cadarnhewch yr wybodaeth a rhoi cynnig arall arni.

Gallwch chi hefyd roi ystod dyddiadau yn y meysydd dyddiadau [2]. Nid oes angen dyddiadau, ond bydd ychwanegu dyddiadau yn cyfyngu eich canlyniadau.

Canfod Gweithgarwch Cwrs

Canfod Gweithgarwch Cwrs

Cliciwch y botwm Canfod (Find).

Gweld Gweithgarwch Cwrs

Bydd Canvas yn dangos unrhyw ganlyniadau perthnasol ar gyfer y meysydd rydych chi wedi’u dewis:

  • Dyddiad (Date) y gweithgarwch
  • Amser (Time) y gweithgarwch
  • Y Defnyddiwr (User) a wnaeth y gweithgaredd
  • Y Math (Type) o weithgarwch (wedi dod i ben, heb ddod i ben, wedi cyhoeddi, wedi dileu, wedi adfer, wedi diweddaru, wedi creu, wedi copïo i, wedi copïo o, wedi ailosod i, ac wedi ailosod o)
  • Ffynhonnell (Source) y gweithgarwch (eich hun neu drwy API)
  • Manylion Digwyddiad (Event Details) y math o ddigwyddiad (cliciwch y ddolen Gweld Manylion)