Sut ydw i’n cysoni deilliant â chyfarwyddyd sgorio mewn cyfrif?
Gallwch gysoni unrhyw ddeilliant yn eich cyfrif â chyfarwyddyd sgorio. Mae modd defnyddio cyfarwyddiadau sgorio i helpu myfyrwyr i ddeall disgwyliadau ar gyfer yr aseiniad a sut bydd eu cyflwyniadau’n cael eu graddio. Mae modd cysoni deilliannau gyda chyfarwyddyd sgorio ar gyfer asesiad ychwanegol a mesur perfformiad.
I gysoni deilliant, rhaid i’r deilliant fodoli’n barod ar gyfer eich cyfrif. Gwybodaeth am sut mae creu deilliannau cyfrif.
Nodiadau:
- Mae modd ychwanegu deilliannau at gyfarwyddiadau sgorio, ond does dim modd ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio at ddeiliannau.
- Does dim modd golygu cyfarwyddiadau sgorio ar ôl iddynt gael eu hychwanegu at fwy nag un aseiniad mewn cwrs.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).
Agor Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch enw’r cyfarwyddyd sgorio.
Creu Cyfarwyddyd Sgorio

I greu cyfarwyddyd sgorio newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).
Dod o hyd i ddeilliant

Cliciwch y ddolen Dod o hyd i Ddeilliant (Find Outcome).
Mewngludo Deilliant
Dod o hyd a dewis y deilliant rydych chi am ei gysoni [1]. Os ydych chi am ddefnyddio’r maen prawf ar gyfer sgorio, ticiwch y blwch Defnyddio’r maen prawf hwn ar gyfer sgorio (Use this criterion for scoring)[2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].
Nodyn: Mae’n bosib y bydd deilliannau sydd ar gael yn amrywio yn ôl sefydliad.
Cadarnhau Mewngludo

Cliciwch y botwm Iawn (OK).