Sut ydw i’n ffurfweddu ap allanol ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio URL Cofrestru LTI 2?

Mae modd defnyddio URL cofrestru LTI 2 i ffurfweddu rhai apiau allanol ar gyfer canfod tebygrwydd. Mae’r wers hon yn dangos sut i ychwanegu adnodd allanol gan ddefnyddio URL a ddarparwyd gan y darparwr apiau allanol. I ddysgu mwy am ffurfweddu apiau allanol, ewch i'r Edu App Center.

Nodiadau:

  • Mae apiau allanol hefyd yn gallu cael eu ffurfweddu gan ddefnyddio URL cofrestru LTI 2 mewn is-gyfrifon.
  • Mae ffurfweddu ap allanol yn hawl cyfrif. Os nad oes modd i chi ffurfweddu ap allanol, nid yw’r hawl hwn wedi cael ei alluogi ar gyfer eich rôl defnyddiwr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Apiau

Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).

Gweld Ffurfweddiadau Ap

I ffurfweddu ap, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).

Ychwanegu Ap Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Ap (Add App).

Dewis Math o Ffurfweddiad

Gosod Math o Ffurfweddiad

Cliciwch y gwymplen Math o Ffurfweddiad (Configuration Type) a dewis Yn ôl URL Cofrestru LTI (By LTI 2 Registration URL).

Ychwanegu URL Cofrestru

Ychwanegu URL Cofrestru

Yn y maes URL Cofrestru (Registration URL), rhowch URL yr ap.

Mae apiau wedi’i ffurfweddu ac rydym ni’n argymell eu bod yn cael eu rhoi fel dolenni diogel (HTTPS).

Lansio Adnodd Cofrestru

Lansio Adnodd Cofrestru

Cliciwch y botwm Lansio Adnodd Cofrestru (Launch Registration Tool).

Nodwch: Efallai y bydd yn rhaid i chi gadarnhau gosodiadau neu ddarparu rhagor o wybodaeth yn yr Adnodd Cofrestru.

Dilysu Ap

Dilysu Ap

Os yw’r ap eisoes wedi cael ei ychwanegu at y cyfrif, mae Canvas yn gwirio eich bod chi eisiau gosod yr ap.

I fwrw ymlaen, cliciwch y botwm Iawn, Gosod Adnodd (Yes, Install Tool).

Gweld Ap

Gweld yr ap allanol.

I reoli'r ap, cliciwch yr eicon Gosodiadau [1]. I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I reoli lleoliadau ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [3]. I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4].