Sut ydw i’n gosod cwotâu storio ar gyfer cyfrif?

Yn y tab Cwotâu gallwch chi ragosod cwotâu cyfrif ar gyfer cyrsiau, defnyddwyr a grwpiau. Hefyd, gallwch osod cwotâu yn ôl ID Cwrs neu ID Grŵp.

Gallwch chi weld cyfanswm yn ffeiliau sy’n cael eu defnyddio ar draws y cyfrif cyfan yn ystadegau’r cyfrif.

Nodiadau: 

  • Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon reoli cwotâu defnyddwyr.
  • Pan mae addysgwr yn copïo cwrs mawr i gragen cwrs, nid yw Canvas yn dyblygu ffeiliau’r cwrs yn hytrach mae’n cyfeirio at y ffeiliau gwreiddiol yn Canvas. Ond, pan mae addysgwr yn defnyddio’r Adnodd Mewngludo Cwrs i fewngludo cwrs sy’n fwy na’r cwota cwrs a ganiateir, bydd y mewngludo’n methu.
  • Bydd y cyfrif plentyn yn etifeddu’r gosodiad cwota o’r cyfrif rhiant a bydd modd ei newid.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Dim ond i weinyddwyr Canvas mae'r rhan gosodiadau o’ch cyfrif ar gael.

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Cwotâu

Cliciwch y tab Cwotâu (Quotas).

Gweld Cwotâu Cyfrif Diofyn

Yn yr adran Cwota Cyfrif Diofyn, gallwch chi weld y cwotâu diofyn sydd wedi’u neilltuo i bob cwrs, defnyddiwr, a grŵp [1].

I newid cwotâu, teipiwch rif newydd yn y meysydd cwota. Bydd newid y cwota yn newid y cwotâu ar gyfer cyrsiau, defnyddwyr, a/neu grwpiau ar gyfer y cyfrif cyfan.

Cliciwch y botwm Diweddaru (Update) [2].

Note: Does dim modd i weinyddwyr is-gyfrifon reoli cwotâu defnyddwyr.

Dod o hyd i gwotâu y mae modd eu gosod eich hun

Dod o hyd i gwotâu y mae modd eu gosod eich hun

Yn yr adran Cwotâu y mae modd eu gosod eich hun, gallwch chi chwilio am gwrs neu grŵp gyda chwota penodol. Yn y maes ID [1], dewiswch ID Cwrs neu ID Grŵp Yn y maes testun [2], rhowch ID y cwrs neu grŵp. Cliciwch y botwm Canfod (Find) [3].

Nodiadau:

  • Mae ID y cwrs wedi’i leoli ar ddiwedd URL eich cwrs (h.y. canvas.instructure.com/courses/XXXXXX, ac mae ID y grŵp wedi’i leoli ar ddiwedd yr URL (h.y. canvas.instructure.com/courses/XXXXXX/groups/XXXXX).
  • Dyw Cwotâu y mae modd eu gosod eich hun ar lefel rhiant ddim ond yn berthnasol i’r is-gyfrifon/cyrsiau ei hun.

Diweddaru Cwota

Diweddaru Cwota

Mae Canvas yn dangos y cwrs neu grŵp a’r cwota [1]. I newid y cwota, rhowch rif newydd yn y maes cwota. Cliciwch y botwm Diweddaru Cwota (Update Quota) [2].