Yn Canvas, gallwch ddefnyddio'r Golygydd Thema i frandio eich cyfrif. Fodd bynnag, os ydych chi am ddefnyddio brand arall nad yw'r Golygydd Thema yn gallu delio ag ef ar hyn o bryd, gallwch llwytho ffeiliau dalenni arddull rhaeadru (CSS) a JavaScript (JS) personol i fyny i’ch cyfrif. Caiff ffeiliau eu lletya yn uniongyrchol yn Canvas. Mae unrhyw thema sy'n berthnasol i'r cyfrif hefyd yn berthnasol i isgyfrifon, er bod modd llwytho ffeiliau CSS/JS i fyny ar gyfer isgyfrifon unigol.
Mae'r Golygydd Thema yn cynnal ffeiliau bwrdd gwaith a ffeiliau llwytho i fyny symudol. Mae ffeiliau CSS/JS sylfaenol yn cael eu cymhwyso i ffeiliau HTML yn rhaglen bwrdd gwaith Canvas, a all gynnwys y dudalen mewngofnodi ar gyfer dyfeisiau symudol. Caiff ffeiliau CSS/JS symudol eu cymhwyso i gynnwys defnyddiwr sy’n ymddangos yn yr apiau iOS neu Android Canvas yn unig, yn ogystal ag apiau trydydd parti sy’n defnyddio API Canvas. Fodd bynnag, nid yw ffeiliau symudol yn berthnasol i gynnwys defnyddiwr sy’n ymddangos mewn porwyr symudol.
Mae ffeiliau JavaScript a CSS personol yn ddarostyngedig i’r un rheolau etifeddu brand cyfrif ac isgyfrif â’r rheolau sy’n berthnasol wrth greu thema arferol yn y Golygydd Thema.
Cyn ychwanegu ffeiliau JavaScript a CSS personol, rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid er mwyn gallu creu brand personol ar gyfer eich cyfrif ac unrhyw isgyfrifon. Unwaith y bydd brandio personol wedi cael ei alluogi, bydd yr opsiwn i lwytho ffeiliau CSS a JS personol i fyny ar gael yn y cyfrif a phob is-gyfrif.
Risgiau Ffeiliau Personol
Os na allwch chi ddefnyddio opsiynau cynhenid y Golygydd Thema ar gyfer y brand, rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio ffeiliau personol, a all achosi problemau o ran hygyrchedd neu wrthdaro rhwng diweddariadau Canvas yn y dyfodol:
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Themâu (Themes).
Nodyn: Os yw themâu isgyfrifon wedi cael eu galluogi, mae pob isgyfrif hefyd yn cynnwys dolen Themâu (Themes). I agor y Golygydd Thema ar gyfer isgyfrif, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts) i ganfod yr isgyfrif a’i agor, yna cliciwch ddolen Themâu (Themes) yr isgyfrif.
Os nad oes gennych chi thema Canvas ar gyfer eich cyfrif, defnyddiwch dempled i greu thema newydd. Gallwch ddewis templed Diofyn Canvas, templed syml a thempled Cyflwr U. Os yw eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid wedi galluogi’r gosodiad nodwedd sy'n benodol i K12, bydd y Thema K12 hefyd yn ymddangos fel templed.
I greu thema newydd, dylech hofran uwchben templed a chlicio’r botwm Agor yn y Golygydd Thema (Open in Theme Editor) [1], neu cliciwch y botwm Ychwanegu Thema (Add Theme) [2] a dewis templed o’r rhestr.
Os ydych chi eisoes wedi creu a chadw thema, gallwch olygu themâu sydd wedi’u cadw unrhyw bryd. Mae themâu sydd wedi’u cadw yn ymddangos yn yr adran Fy Themâu (My Themes). I agor thema sydd wedi'i chadw, dylech hofran dros enw’r thema a chlicio’r botwm Agor yn y Golygydd Thema (Open in Theme Editor) [1].
I greu thema newydd yn seiliedig ar thema sydd wedi’i chadw, cliciwch y botwm Ychwanegu Thema [2] a dewis enw'r thema sydd wedi’i gadw ar y rhestr [3]. Mae’r opsiwn hwn yn eich helpu i osgoi diystyru'r thema rydych chi eisoes wedi’i chadw.
Ym mar ochr y Golygydd Thema, cliciwch y tab Llwytho i fyny (Upload).
I lwytho ffeiliau i fyny ar gyfer rhaglen bwrdd gwaith Canvas, dewch o hyd i benawdau'r ffeil CSS/JavaScript [1]. I lwytho ffeiliau i fyny ar gyfer cynnwys defnyddiwr yn ap symudol Canvas ac apiau trydydd parti, dewch o hyd i benawdau ffeil CSS/ffeil JavaScript yr ap Symudol [2].
Dewch o hyd i’r math o ffeil rydych chi am ei llwytho i fyny a chliciwch y botwm Dewis (Select) [3], yna dewch o hyd i'r ffeil ar eich cyfrifiadur.
Dewch o hyd i ffeiliau ychwanegol i’w llwytho i fyny, os oes angen.
I weld rhagolwg o’ch thema, cliciwch y botwm Gweld Rhagolwg o’ch Newidiadau (Preview Your Changes).
Bydd Canvas yn creu rhagolwg o’r cydrannau ar sail y ffeiliau rydych chi wedi’u llwytho i fyny.
I reoli eich ffeiliau, cliciwch y tab llwytho i fyny (Upload) eto [1].
I dynnu ffeil a llwytho ffeil newydd i fyny, cliciwch yr eicon Tynnu [2]. Gallwch wneud newidiadau ychwanegol a llwytho ffeiliau diwygiedig i fyny.
I weld y cod ar gyfer eich ffeil, cliciwch y ddolen Gweld Ffeil (View File) [3]. Gan fod y ffeil yn cael ei chadw’n uniongyrchol yn Canvas, defnyddiwch y ddolen hon os bydd arnoch angen llwytho'r ffeil i lawr ryw dro.
Pan fyddwch chi’n fodlon ar y newidiadau i’ch templed, cadwch eich thema drwy glicio’r botwm Cadw Thema (Save Theme).
Os ydych chi wedi addasu thema o dempled, mae’r Golygydd Thema yn creu copi o’r thema. Does dim modd golygu templedi yn uniongyrchol. Yn y maes Enw Thema (Theme Name) [1], rhowch enw ar gyfer eich thema. Cliciwch y botwm Cadw Thema (Save Theme) [2].
Nodyn: Os ydych chi wedi golygu thema sydd wedi’i chadw eisoes, bydd cadw’r thema yn diystyru’r fersiwn blaenorol ac yn defnyddio’r un enw ar gyfer y thema.
I roi eich thema ar waith yn eich cyfrif, cliciwch y botwm Rhoi Thema ar Waith (Apply theme) [1].
I adael y thema a dychwelyd i'r dudalen Themâu, cliciwch y botwm Gadael (Exit) [2]. Gallwch agor y thema a’i rhoi ar waith yn eich cyfrif unrhyw dro.
Nodyn: Os yw eich cyfrif yn caniatáu i isgyfrifon addasu eu themâu eu hunain, yna bydd unrhyw newidiadau perthnasol rydych chi wedi’u gwneud hefyd yn hidlo i lawr i unrhyw isgyfrifon cysylltiedig. Mae Canvas yn dangos statws eich diweddariadau yn y Golygydd Thema; ar ôl i’r broses gael ei chwblhau ar gyfer pob isgyfrif, bydd yr isgyfrif yn diflannu o’r ffenestr cynnydd. Ar ôl i'r holl isgyfrifon gael eu diweddaru, bydd y Golygydd Thema yn eich ailgyfeirio yn ôl i’r dudalen Themâu (Themes).