Sut ydw i’n cymedroli e-Bortffolios fel gweinyddwr?

Fel gweinyddwr, gallwch chi gymedroli e-Bortffolios yn eich cyfrif. Mae'r dudalen Cymedroli e-Bortffolio yn dangos unrhyw e-Bortffolio a nodwyd gan Instructure fel sbam posibl. Gallwch gadarnhau’r e-Bortffolios hyn fel sbam, neu nodi eu bod yn ddiogel. Mae nodi e-Bortffolio fel sbam, neu nodi ei fod yn ddiogel, yn gosod y statws hwnnw ar gyfer yr e-Bortffolio cyfan.

Mae'r dudalen Cymedroli e-Bortffolio hefyd yn dangos yr holl e-Bortffolios sbam yn eich cyfrif, yn ogystal ag e-Bortffolios diogel a ysgrifennwyd gan ddefnyddwyr sydd hefyd wedi ysgrifennu e-Bortffolios sydd wedi'u nodi fel sbam.

Dim ond yr awdur a'r gweinyddwyr fydd yn gallu gweld e-Bortffolios sy'n cael eu nodi fel sbam posibl gan Instructure, neu sydd wedi'u nodi fel sbam gan weinyddwr Canvas. Ni all awduron olygu e-Bortffolios sydd wedi’u ffalgio neu eu nodi fel sbam. Os bydd e-Bortffolio defnyddiwr wedi’i nodi fel sbam, ni fydd y defnyddiwr yn gallu creu e-Bortffolios newydd mwyach.

Sylwch:

  • Caniatâd ar lefel cyfrif ydy cymedroli e-Bortffolios fel gweinyddwr. I gymedroli e-Bortffolios, rhaid bod y caniatâd Cymedroli Cynnwys - Defnyddwyr wedi’i alluogi.
  • Nid yw cael gwared ar ddefnyddwyr drwy lwytho SIS i fyny ddim yn dileu eu e-Bortffolios. Fodd bynnag, drwy ddileu cyfrif defnyddiwr ar eich cyfrif Canvas rydych chi hefyd yn dileu ei e-Bortffolio.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cymedroli e-Bortffolio

Clicio Dolen Hawliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cymedroli e-Bortffolio (ePortfolio Moderation).

Sylwch: Dim ond y gweinyddwyr a’r Defnyddwyr sy’n gallu gweld y ddolen Cymedroli e-Bortffolio - Caniatâd Cymedroli Cynnwys.

Gweld Cymedroli e-Bortffolio

Ar y dudalen Cymedroli e-Bortffolio, gallwch reoli e-Bortffolios yn eich cyfrif sydd wedi’u hadnabod fel sbam. Mae pob e-Bortffolio yn dangos yr awdur [1], enw [2], statws gweladwy [3], a statws cymedroli. Bydd gan e-Bortffolios un o'r statws cymedroli canlynol:

  • Angen adolygu: wedi’i fflagio fel sbam posibl [4] - Mae systemau Instructure wedi nodi’r posibilrwydd bod yr e-Bortffolio hwn yn cynnwys sbam, a bod angen i weinyddwr ei adolygu. Dim ond yr awdur gwreiddiol a gweinyddwyr sy'n gallu ei weld.
  • Wedi’i nodi fel e-Bortffolio sbam [5] - Mae gweinyddwr wedi adolygu’r e-Bortffolio ac wedi’i nodi fel sbam. Dim ond yr awdur gwreiddiol a gweinyddwyr sy'n gallu ei weld.
  • Wedi’i nodi fel e-Bortffolio diogel [6] - Mae gweinyddwr wedi’i adolygu’r e-Bortffolio ac wedi’i nodi fel e-Bortffolio diogel. Mae ei gynulleidfa wreiddiol yn gallu ei weld.

Sylwch: Dim ond os yw’r e-Bortffolio yn rhan o gyfrif awdur sydd ag o leiaf un e-Bortffolio sydd wedi’i nodi fel sbam a phob e-Bortffolio heb eu datrys eto y bydd e-Bortffolios yn cael eu nodi fel rhai diogel ar y dudalen hon.

Adolygu’r e-Bortffolio

I adolygu e-Bortffolio, cliciwch ar enw’r e-Bortffolio [1].

I agor proffil defnyddiwr, cliciwch enw’r defnyddiwr [2].  O’r dudalen proffil, gallwch reoli manylion mewngofnodi neu dileu defnyddiwr.

Sylwch: Nid yw cael gwared ar ddefnyddwyr drwy lwytho SIS i fyny ddim yn dileu eu e-Bortffolios. Fodd bynnag, drwy ddileu cyfrif defnyddiwr ar eich cyfrif Canvas rydych chi hefyd yn dileu ei e-Bortffolio.

Gweld e-Bortffolio wedi’i Fflagio

Os bydd portffolio yn cael ei fflagio fel sbam posibl, bydd neges o rybudd yn ymddangos. Dim ond y gweinyddwyr a’r awdur fydd yn gweld y neges hon [1].

I nodi bod y portffolio yn ddiogel, cliciwch y botwm Nodi yn Ddiogel (Mark as Safe) [2].

I nodi bod y portffolio yn sbam, cliciwch y botwm Cadarnhau fel Sbam (Mark as Spam) [3].

Gweld e-Bortffolio Sbam

Os bydd portffolio yn cael ei nodi fel sbam, bydd neges o rybudd yn ymddangos. Dim ond y gweinyddwyr a’r awdur fydd yn gweld y neges hon [1]. Ni all awduron olygu e-Bortffolios sydd wedi’u nodi fel sbam.

I nodi bod y e-Bortffolio yn ddiogel, cliciwch y botwm Nodi yn Ddiogel (Mark as Safe) [2].

Gweld e-Bortffolio Diogel

Gall gweinyddwyr farcio unrhyw e-Bortffolios fel sbam, hyd yn oed os ydy’r e-Bortffolio heb gael ei restru ar y dudalen Cymedroli e-Bortffolio.

I farcio e-Bortffolio fel sbam, ewch i’r e-Bortffolio a chlicio y botwm Nodi fel Sbam (Mark as Spam).