Sut ydw i’n ychwanegu tymor newydd mewn cyfrif?

Dylai dyddiadau tymhorau gael eu gosod cyn ychwanegu unrhyw gyrsiau at eich cyfrif. Mae tymhorau yn gysylltiedig â chyfnodau graddio cyfrifon, dadansoddi cyfrifon, ac adroddiadau cyfrifon, ac mae tymhorau’n cael eu defnyddio i hidlo’r data hwnnw.

Mae Canvas wastad yn cynnwys tymor diofyn, nad oes modd ei dynnu na’i ailenwi. Ond, mae modd i chi ychwanegu tymhorau newydd gyda dyddiadau dechrau a gorffen penodol.

Ym mhob tymor, gallwch osod dyddiadau cyfranogiad penodol ar gyfer rolau defnyddiwr penodol. Mae’n well gan y rhan fwyaf o sefydliadau Canvas gadw’r rhagosodiadau ar gyfer y tymhorau, gan eu bod yn caniatáu i Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu, a Dylunwyr wneud yn siŵr bod cynnwys cyrsiau yn barod erbyn dyddiadau dechrau'r cwrs. Mae'r rhagosodiadau’n cynnwys y mynediad canlynol ar gyfer pob rôl defnyddiwr:

  • Bydd myfyrwyr yn etifeddu dyddiad dechrau'r tymor a dyddiad gorffen y tymor.
  • Bydd Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu a Dylunwyr yn etifeddu dyddiad dechrau amhenodol at ddyddiad gorffen y tymor. Mae amhenodol yn golygu y gall y rolau defnyddiwr hyn gael mynediad at gwrs unrhyw bryd cyn i’r tymor ddechrau.

Nodiadau:

  • Hefyd, mae modd creu tymhorau gan ddefnyddio nodwedd mewngludo SIS. Ond, does dim modd i’r nodwedd mewngludo SIS bennu dyddiadau penodol ar gyfer pob grŵp defnyddiwr, a rhaid i chi newid hyn eich hun.
  • Mae tymhorau ar lefel y prif gyfrif a does dim modd eu creu ar gyfer isgyfrifon.
  • Dim ond gweinyddwyr all weld y dudalen Tymhorau (Terms) yn Canvas. Does dim modd i addysgwyr a myfyrwyr weld y dudalen Tymhorau (Terms), felly gwnewch yn siŵr bod defnyddwyr yn eich sefydliad yn gwybod beth yw dyddiadau tymhorau ar gyfer eich sefydliad yn gyhoeddus.
  • Mae telerau cyfrifon consortiwm yn cael eu hetifeddu o’r cyfrif rhiant. Nid yw cyfrifon consortiwm plentyn yn gallu gweld na newid telerau.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Tymhorau

Agor Tymhorau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif (Account Navigation), cliciwch y ddolen Tymhorau (Terms).

Ychwanegu Tymor Newydd

Cliciwch y ddolen Ychwanegu Tymor Newydd (Add New Term).

Ychwanegu Manylion Tymor

Yn y maes Enw Tymor (Term Name) [1], rhowch enw ar gyfer y tymor. Bydd yr enw hwn yn cael ei ddangos fel rhan o unrhyw gwrs sy’n cael ei ychwanegu at y tymor.

Os yw eich sefydliad yn defnyddio ID SIS, yna gallwch roi ID SIS i’r tymor yn y maes ID SIS (SIS ID) [2]. Mewn ffeiliau CSV SIS, mae’r ID SIS yn cael ei alw’n ID y cwrs.

Ychwanegu Dyddiadau Tymor

Yn y llinell Mae’r tymor yn mynd o (Term Runs from), defnyddiwch yr eiconau calendr i osod dyddiad dechrau tymor [1] a dyddiad gorffen tymor [2].

Yn ddiofyn, mae’r dyddiadau y gall myfyrwyr weld cyrsiau yn etifeddu’r dyddiadau Mae’r tymor yn mynd o [dyddiad dechrau] hyd at [dyddiad gorffen], ac mae dyddiadau Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu a Dylunwyr yn etifeddu dyddiad dechrau amhenodol hyd at [dyddiad gorffen tymor].

Nodiadau:

  • Yn ddiofyn, mae mynediad at y tymor yn cael ei atal am 12AM ar y dyddiad gorffen rydych chi wedi’i nodi, gan olygu mai’r diwrnod blaenorol yw'r diwrnod llawn olaf lle gall defnyddwyr gael mynediad at y tymor. Er enghraifft, mae gosod dyddiad gorffen ar 16 Rhagfyr yn golygu mai 15 Rhagfyr yw’r diwrnod llawn olaf y gall defnyddwyr gael mynediad at y cwrs. Ond, gallwch osod amser penodol fel rhan o ddyddiadau’r tymor.
  • Mae dyddiadau gorffen yn digwydd ar yr union funud y cawson nhw eu gosod. Er enghraifft, bydd tymor sydd ag amser gorffen o 11:59pm yn gorffen am 11:59:00.

Ychwanegu Dyddiadau Defnyddiwr

Mae pob tymor yn gadael i chi bennu dyddiadau cyfranogiad penodol ar gyfer pob rôl defnyddiwr.

Os ydych chi am i bob rôl defnyddiwr etifeddu dyddiadau diofyn y tymor, does dim rhaid i chi roi unrhyw ddyddiadau. Ar ôl i chi gadw’r tymor a’i ychwanegu i’ch cyfrif, bydd rolau'r defnyddiwr yn dangos y rhagosodiadau canlynol:

  • Bydd myfyrwyr yn etifeddu dyddiad dechrau'r tymor a dyddiad gorffen y tymor (sydd wedi'u nodi ar y dudalen Tymhorau (Terms) fel dechrau tymor a diwedd tymor).
  • Bydd Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu a Dylunwyr yn etifeddu dyddiad dechrau amhenodol at ddyddiad diwedd y tymor (sydd wedi’i nodi ar y dudalen Tymhorau (Terms) fel diwedd tymor). Mae amhenodol yn golygu nad oes dyddiad dechrau, ac y gall y rolau defnyddiwr hyn gael mynediad at gwrs unrhyw bryd cyn i’r tymor ddechrau.

Addasu Dyddiadau Defnyddiwr

Os ydych chi am osod dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer rôl defnyddiwr penodol, chwiliwch am y rôl a gosod dyddiadau ar gyfer y rôl honno.

Er enghraifft, os ydych chi am i athrawon allu cael mynediad at gyrsiau heb eu cyhoeddi ddau fis cyn dyddiad dechrau’r tymor, ac i gynorthwywyr dysgu gael mynediad wythnos cyn dyddiad dechrau’r tymor, gallwch bennu dyddiad dechrau newydd ar gyfer pob un o’u rolau priodol. Bydd newid dyddiad ar gyfer rôl sylfaenol yn effeithio ar bob defnyddiwr sydd â'r rôl honno, gan gynnwys rolau personol.

Nodiadau:

  • Byddwch yn ofalus wrth olygu dyddiad amhenodol, gan na fydd y cofnod amhenodol ar gael ar ôl iddo gael ei olygu.
  • Mae newid dyddiadau dechrau Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu, a Dylunwyr yn effeithio ar eu gallu i gael mynediad at gyrsiau sydd heb eu cyhoeddi yn y tymor.

Ychwanegu Tymor

Ychwanegu Tymor

Cliciwch y botwm Ychwanegu Tymor (Add Term).

Rheoli Tymor

I olygu manylion y tymor, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1]. I ddileu’r tymor, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [2].

Nodyn: Does dim modd dileu tymhorau os ydyn nhw’n cynnwys cyrsiau.