Sut ydw i’n gweithredu fel defnyddiwr arall mewn cyfrif?

Mae Gweithredu fel defnyddiwr yn gadael i weinyddwyr fewngofnodi fel y defnyddiwr heb gyfrinair. Gallwch chi wneud unrhyw beth fel mai chi yw’r defnyddiwr. O safbwynt pobl eraill, bydd yn edrych fel mai’r defnyddiwr hwn sydd wedi gwneud hynny. Ond bydd y logiau archwilio yn dangos mai chi sydd wedi gwneud y tasgau hynny wrth weithredu fel y defnyddiwr hwnnw. Mae gweinyddwyr sydd â mynediad at ffeiliau Data Canvas yn gallu gweld logiau archwilio. Mae logiau archwilio hefyd ar gael drwy lwytho’r ffeil CSV Tudalennau a Welwydi lawr. Bydd y ffeil yn dangos holl weithgarwch defnyddiwr penodol, gan gynnwys y gweithredoedd y mae gweinyddwr yn eu gwneud wrth esgus bod yn ddefnyddiwr.

I weithredu fel defnyddiwr mewn cyfrir, rhaid i weinyddwyr fod wedi derbyn yr hawl Defnyddwyr - Gweithredu fel (Users - Act as). Dim ond o’r cyfrif gwraidd y mae modd rheoli’r hawl cyfrif Defnyddwyr - gweithredu fel (Users - Act as) ac ni ellir ei galluogi ar lefel yr is-gyfrif. Dim ond defnyddwyr y mae eich sefydliad wedi’u hawdurdodi i weithredu fel defnyddwyr eraill yn eich cyfrif Canvas ddylai dderbyn yr hawl Defnyddwyr - gweithredu fel (Users - Act as). Bydd defnyddwyr â’r hawl hwn yn gallu defnyddio’r Weithredi fel nodwedd i reoli gosodiadau cyfrif, gweld ac addasu graddau, cael mynediad at wybodaeth defnyddwyr, ac ati. Gallai hyn gynnwys gweinyddwyr sydd wedi cael eu neilltuo i is-gyfrifon yn cael mynediad at osodiadau a gwybodaeth y tu allan i’w his-gyfrif.

Nodiadau:

  • Wrth weithredu fel defnyddiwr, dydy’r dewisiadau iaith ddim yn berthnasol, a’r iaith ddiofyn fydd yn ymddangos bob amser.
  • I weithredu fel gweinyddwr arall, mae gofyn bod yr holl hawliau sydd wedi’u galluogi ar gyfer y gweinyddwr hwnnw hefyd wedi’u galluogi yn eich cyfrif chi.
  • Os oes gan eich sefydliad gytundeb ymddiriedaeth â sefydliad arall, dydy cyfrifon ymddiriedaeth ddim yn rhoi caniatâd i chi weithredu fel defnyddwyr sy’n gysylltiedig ag URL Canvas gwahanol. Dim ond ar gyfer defnyddwyr sydd wedi’u cysylltu â’r un cyfrif â chi y gallwch chi weithredu fel defnyddiwr.
  • Hefyd, pan fyddwch chi’n gweithredu fel defnyddiwr, bydd unrhyw rôl defnyddiwr sy’n gallu gweld y dudalen manylion defnyddiwr yn cynnwys y ddolen Gweithredu fel Defnyddwyr ar y dudalen honno. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod eich hawliau’n cael eu disodli, ac mae’n eich helpu i weithredu’n gyflym fel defnyddiwr arall; dydy hyn ddim yn golygu bod y defnyddiwr rydych chi’n gweithredu ar ei gyfer hefyd yn gallu gweithredu fel defnyddwyr eraill.
  • Does dim modd i unrhyw nodwedd Canvas sy’n mynnu neu’n addasu tocyn mynediad API defnyddiwr gael ei haddasu wrth weithredu fel defnyddiwr.
  • Pan fyddwch chi’n gweithredu fel defnyddiwr arall neu fel gweinyddwr, bydd ddolen Hanes Diweddar yn dangos hanes diweddar y myfyriwr, nid yr ymweliadau â thudalen rydych chi’n eu creu. 

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Dod o hyd i Ddefnyddiwr

Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.

Agor Proffil Defnyddiwr

Agor Proffil Defnyddiwr

Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.

Gweithredu fel Defnyddiwr

Cliciwch y ddolen Gweithredu fel Defnyddiwr (Act as User).

Bwrw ymlaen fel Defnyddiwr

Bwrw ymlaen fel Defnyddiwr

Mae’r dudalen Gweithredu fel Defnyddiwr yn cadarnhau gwybodaeth y defnyddiwr. Os oes gan y defnyddiwr fwy nag un set o fanylion mewngofnodi, bydd pob ID mewngofnodi yn ymddangos er mwyn dilysu’r defnyddiwr ychwanegol. Cliciwch y botwm Bwrw ymlaen (Proceed).

Gweld Canvas fel Defnyddiwr

Pan rydych chi’n gweithredu fel y defnyddiwr, byddwch chi’n gweld beth mae’r defnyddiwr yn ei weld, ond bydd yr adroddiadau archwilio yn dangos mai chi sydd wedi gwneud y tasgau hynny – nid y defnyddiwr ei hun. Bydd y blwch gwybodaeth ar waelod y sgrin sy’n dweud Ar hyn o bryd, rydych chi’n gweithredu fel [Defnyddiwr] (You are currently acting as [User]) yn dangos i chi eich bod yn gweithredu fel defnyddiwr.

Stopio Gweithredu fel Defnyddiwr

Ar ôl i chi orffen gweithredu fel y defnyddiwr, cliciwch y botwm Stopio Gweithredu fel Defnyddiwr (Stop Acting as User).