Sut ydw i’n gosod Gwasanaethau Data Canvas gan ddefnyddio digwyddiadau Byd yn fy nghyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi osod Gwasanaethau Data Canvas yn eich cyfrif. Mae galluogi Gwasanaethau Data Canvas yn creu dolen yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, lle gallwch chi weld a rheoli ffrydiau Data Canvas. Mae Gwasanaethau Data Canvas yn nodwedd ar wahân i Borth Data Canvas.

Nodiadau:

  • Mae gosod adnodd allanol yn hawl cyfrif. Os na allwch chi weld dolen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
  • Mae ffrydiau Data Canvas yn gallu cynnwys gwybodaeth bersonol ar gyfer defnyddwyr Canvas. Dim ond i wasanaethau a chyrchfannau dibynadwy y dylech chi ffrydio data.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Allweddi Datblygwyr

Agor Allweddi Datblygwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).

Agor Tab wedi’i Etifeddu

Yn y dudalen Allweddi Datblygwr, cliciwch y tab Etifeddwyd (Inherited).

Gweld Allwedd Gwasanaethau Data Canvas

Gweld Allwedd Gwasanaethau Data Canvas

Dewch o hyd i’r allwedd Gwasanaethau Data Canvas (Canvas Data Services) [1]. Os oes angen, rhowch yr allwedd Ymlaen drwy glicio’r botwm Cyflwr (State) [2].

Copïo ID Cleient

Copïo ID Cleient

Copïo’r ID cleient sydd i’w gael yn y golofn Manylion.

Agor Gosodiadau Cyfrif

Agor Gosodiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Ffurfweddiadau Ap

Cliciwch y tab Apiau (Apps) [1]. Yna cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations) [2].

Ychwanegu Ap

Cliciwch y botwm Ychwanegu Ap (Add App).

Rhowch Fanylion yr Ap

Rhowch Fanylion yr Ap

Yn y ddewislen Math o Ffurfweddiad, dewiswch yr opsiwn yn Ôl ID Cleient (By Client ID) [1].

Yna gludwch y ID cleient Gwasanaethau Data Canvas yn y maes ID Cleient (Client ID) [2].

Cliciwch y botwm Cyfwyno (Submit) [3].

Dilysu Gosod Ap

Dilysu Gosod Ap

I ddilysu eich bod chi eisiau gosod Gwasanaethau Data Canvas, cliciwch y botwm Gosod (Install).

Gweld Gwasanaethau Data Canvas

Ar ôl i Wasanaethau Data gael eu gosod, gallwch chi weld y ddolen Gwasanaethau Data (Data Services) yn eich dewislen Crwydro’r Cwrs [1].

Bydd clicio'r ddolen Gwasanaethau Data yn agor y dudalen Opsiynau Ffrydio Data (Data Streaming Options) [2]. O’r dudalen hon, gallwch chi greu a rheoli ffrydiau data.