Sut ydw i’n ffurfweddu ap allanol ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio XML?
Mae rhai apiau allanol angen ffurfweddiad XML. Mae’r wers hon yn dangos sut i ychwanegu adnodd Allanol gan ddefnyddio’r XML a ddarparwyd gan y darparwr apiau allanol. I ddysgu mwy am ffurfweddu apiau allanol, ewch i'r Edu App Center.
Nodiadau:
- Mae apiau allanol hefyd yn gallu cael eu ffurfweddu gan ddefnyddio XML mewn is-gyfrifon.
- Mae ffurfweddu ap allanol eich hun yn hawl cyfrif. Os nad oes modd i chi ffurfweddu ap allanol, nid yw’r hawl hwn wedi cael ei alluogi ar gyfer eich rôl defnyddiwr.
Agor Cyfrif
![Agor Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/949/740/original/167b4d34-2e3f-4046-9aed-39673e67bdab.png)
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
![Agor Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/748/622/original/2eaffa29-a595-456d-a6c6-7bbd61b737e6.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau
![Agor Apiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/584/original/020ab716-de19-4a7f-b667-58416dc53e3b.png)
Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Gweld Ffurfweddiadau Ap
![Gweld Ffurfweddiadau Ap](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/586/original/9ff114d6-1cda-4e8b-bbc6-4f5581c68405.png)
I ffurfweddu ap, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).
Ychwanegu Ap Newydd
![Ychwanegu Ap Newydd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/572/original/080da5dd-0e73-44dd-a3b5-3d50d7481fbc.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Ap (Add App).
Gosod Math o Ffurfweddiad
![Gosod Math o Ffurfweddiad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/582/original/3318514d-f891-4bde-a10c-bca34c4c833b.png)
Dewiswch y gwymplen Math o Ffurfweddiad a gosod y math o ffurfweddiad i Gludo XML (Paste XML).
Ychwanegu Manylion Ap
![Ychwanegu Manylion Ap](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/580/original/c8a7e552-4697-41a7-b829-6ed12b371f0c.png)
Rhowch enw’r ap yn y maes Enw (Name) [1]. Rhowch yr allwedd defnyddiwr yn y maes Allwedd Defnyddiwr (Consumer Key) [2] a’r gyfrinach wedi’i rhannu yn y maes Cyfrinach wedi’i Rhannu (Shared Secret) [3]. Bydd yr allwedd a’r gyfrinach wedi’u rhannu yn cael eu darparu gan y gwerthwr neu (neu os yn defnyddio'r Edu App Center) gan y wefan.
Nodwch: Mae rhai apiau sydd ddim angen allwedd defnyddiwr neu gyfrinach wedi’i rhannu, felly talwch sylw i’r cyfarwyddiadau ffurfweddu.
Rhowch Ffurfweddiad XML
![Rhowch Ffurfweddiad XML](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/578/original/774ed90d-f06c-4ac9-843e-434c821e308c.png)
Yn y maes Ffurfweddiad XML (XML Configuration) gludwch y cod XML.
Cyflwyno Ap
![Cyflwyno Ap](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/788/576/original/71764064-1601-4a19-a039-619d1f76560a.png)
Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Dilysu Ap
![Dilysu Ap](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/255/227/original/6e67f797-8e1b-42f1-85eb-fc3ae625d384.png)
Os yw’r ap eisoes wedi cael ei ychwanegu at y cyfrif, mae Canvas yn gwirio eich bod chi eisiau gosod yr ap. I fwrw ymlaen, cliciwch y botwm Iawn, Gosod Adnodd (Yes, Install Tool).
Nodwch: Dydy cadarnhau ddim ond yn digwydd yn yr un cyd-destun ar gyfer ap allanol sydd eisoes yn bodoli (fel gosod yr un ap fwy nag un waith yn y cyfrif gwraidd).
Gweld Ap
![Gweld Ap](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/677/391/original/0d255eef-9894-458d-9f0b-5612d6eb5c17.png)
Gweld yr ap allanol.
I reoli'r ap, cliciwch yr eicon Gosodiadau [1]. I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I reoli lleoliadau ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [3]. I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4].
I ychwanegu ap allanol at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y togl Ychwanegu at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Add to RCE toolbar) [5]. Dim ond ar gyfer adnoddau sy’n gallu delio â lleoliad yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog y mae’r opsiwn hwn ar gael.
Nodwch: Pan fyddwch chi’n clicio’r ddolen Lleoliadau, mae’n bosib y byddwch chi’n gweld neges Dim Lleoliadau wedi’u Galluogi. Mae’r neges hon yn nodi nad oes gan yr ap unrhyw leoliadau penodol o fewn Canvas. Ond, bydd yr ap yn dal i weithio’n iawn.