Sut ydw i’n dod o hyd i ddeilliant ychwanegol i’w ychwanegu at gyfrif?
Bydd yr holl ddeilliannau sy’n cael eu hychwanegu ar lefel y cyfrif neu’r isgyfrif ar gael i gyrsiau o fewn y cyfrif. Gallwch ganfod a mewngludo Safonau Cyfrif, sef deilliannau sydd wedi’u creu gennych chi neu gan ddefnyddwyr eraill sydd â hawliau gweinyddwr ar gyfer y sefydliad cyfan. Gallwch hefyd ganfod Safonau Taleithiau a Safonau Common Core.
Gallwch fewngludo deilliant unigol neu fewngludo grŵp deilliannau cyfan.
Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae darganfod deilliant presennol yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hwn, dysgwch sut mae darganfod deilliant presennol sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deill....
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Dod o hyd i ddeilliant
Cliciwch y botwm Canfod (Find). Byddwch chi’n dod o hyd i ddeilliannau sy’n bodoli’n barod ar gyfer Safonau Cyfrif, Taleithiau neu Common Core.
Mewngludo Deilliant
Dewiswch enw grŵp deilliannau i weld y deilliannau sydd ar gael [1]. Gallwch hefyd weld grwpiau deilliannau o fewn grwpiau deilliannau eraill.
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddeilliant, cliciwch enw’r deilliant rydych am ei fewngludo [2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].
Note: Gallwch hefyd fewngludo grŵp deilliannau cyfan.
Gweld Deilliant
Gallwch weld y Deilliannau sydd wedi’u mewngludo.
Mae deilliannau a grwpiau deilliannau yn cael eu mewngludo i’r prif lefel deilliannau; gallwch ddysgu sut mae symud deilliannau neu grwpiau deilliannau.