Sut ydw i’n defnyddio traws-restru mewn cyfrif?

Mae traws-restru yn gadael i chi greu adran mewn un cyfrif neu is-gyfrif ac yna’i symud i gwrs gwahanol yn yr un cyfrif neu is-gyfrif, neu i gwrs ar gyfrif neu is-gyfrif gwahanol.

Fel arfer mae traws-restru yn hawl gweinyddwr yn unig. Ond, mae rhai sefydliadau yn caniatáu i’w haddysgwyr draws-restru eu hadrannau eu hunain.

Cyrsiau o gymharu ag Adrannau

Cyrsiau o gymharu ag Adrannau

Y cyrsiau yw’r rhith ystafell ddosbarth lle mae'r holl gynnwys yn cael ei gadw, lle mae myfyrwyr yn gallu dysgu a rhyngweithio â’r addysgwr a'i gilydd Mae adrannau yn grŵp o fyfyrwyr sydd wedi’u trefnu at ddibenion gweinyddol. Mae myfyrwyr yn cael eu hymrestru mewn adrannau ac mae adrannau’n cael eu rhestru mewn cyrsiau. Mae'n bosib rhoi mwy nag un adran mewn cwrs, ond does dim modd rhoi adrannau mewn adrannau.

Traws-Restru Adrannau

Traws-Restru Adrannau

Mae traws-restru yn caniatáu i chi symud ymrestriadau ar adrannau o gyrsiau unigol a’u cyfuno mewn un cwrs. Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol i addysgwyr sy’n dysgu mwy nag un adran o’r un cwrs, ac sydd am reoli data cwrs mewn un lleoliad yn unig. Ni fydd enwau adrannau yn newid pan fyddan nhw’n cael eu traws-restru; dim ond cael ei symud i gwrs arall mae’r adran. Dim ond mewn un cwrs ar y tro y gall adrannau ymddangos. Ar ôl i adran gael ei thraws-restru, gallwch draws-restru’r adran eto i gwrs arall os oes angen. Dysgu sut i draws-restru adran.

Statws Cwrs

Mae gwaith cwrs yn cael ei gadw gyda'r cwrs, nid gydag ymrestriadau’r adran. Felly, dim ond mewn cyrsiau sydd heb eu cyhoeddi y dylid traws-restru. Os oes cyflwyniadau myfyrwyr yn y cwrs pan mae’r adran yn cael ei thraws-restru, ni fydd y cyflwyniadau a’r graddau’n trosglwyddo i’r adran newydd.

Os oes angen i chi adfer yr ymrestriadau, gallwch chi ddad-draws-restru yn ôl i’r cwrs.. Os oes angen i chi gadw graddau myfyriwr yn y cwrs gwreiddiol, dylech chi allgludo’r Llyfr Graddau a’i fewngludo i’r cwrs gwreiddiol cyn dad-draws-restru’r adran.

Ymrestriadau Addysgwr

Mae addysgwyr yn cael eu cynnwys fel rhan o’r adran wedi’i thraws-restru. Mae traws-restru yn tynnu mynediad yr addysgwr at y cwrs gwreiddio ac yn symud yr addysgwr i’r cwrs newydd gyda'r defnyddwyr eraill yn yr adran. Os ydych chi eisiau i addysgwr gael mynediad at y cwrs gwreiddio, rhaid i chi ychwanegu ymrestriad yr addysgwr at adran ar wahân yn y cwrs gwreiddiol.

Os ydych chi’n gadael i addysgwyr draws-restru eu hadrannau eu hunain, dim ond os oes ganddyn nhw ymrestriad yn y cwrs gwreiddiol y gallan nhw draws-restru adran yn ôl i’r cwrs gwreiddiol. Fel arall, bydd yn rhaid iddyn nhw gysylltu â chi am gymorth.

Enghreifftiau Traws-Restru

Enghreifftiau Traws-Restru

Mewn sefydliadau K12, mae traws-restru yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer addysgwyr sy’n addysgu’r un pwnc mewn mwy nag un dosbarth. Er enghraifft, mae addysgwr yn dysgu Algebra yn ystod cyfnod 1, 3, a 7. Mae modd gosod y cyfnodau hyn yn Canvas fel tri chwrs gwahanol, ac mae myfyrwyr yn cael eu hymrestru yn y cwrs yn unol â pha gyfnod maen nhw’n ei gymryd. Yn hytrach na rhoi a rheoli cynnwys cwrs dair gwaith, mae modd i ddau o’r cyrsiau fod ag adran (neu fwy nag un adran) wedi’i thraws-restru i’r trydydd cwrs cyn i’r cwrs gael ei gyhoeddi. Felly, os cafodd yr adrannau a gafodd eu creu yn y cyrsiau ar gyfer cyfnod 3 a 7 eu traws-restru i’r cwrs a gafodd ei greu ar gyfer cyfnod 1, dim ond y cwrs cyntaf y mae’n rhaid i'r addysgwr ei ddiweddaru, bydd bellach yn cynnwys y thri cyfnod fel adrannau unigol.

Mewn addysg uwch, mae’r un cysyniad yn berthnasol. Sawl gwaith mae un cwrs yn cael ei ddysgu gan un athro yn cael ei ddangos ar gyfer credyd cwrs ar draws mwy nag un adran. Os yw cwrs Saesneg 1010 wedi’i ledaenu ar draws pedair adran wahanol gydag enwau gwahanol, mae sefydliadau’n gallu creu cyrsiau ar gydag ymrestriadau pob adran (e.e. Saesneg, Busnes, Seicoleg, ac Addysg), yna agor y cyrsiau hynny a thraws-restru eu hadrannau i un prif gwrs.

Mae rheoli un cwrs gyda mwy nag un adran yn darparu hyblygrwydd ar gyfer addysgwyr tra’n rheoli cynnwys mewn un lleoliad. Mae addysgwyr yn gallu defnyddio adrannau i greu aseiniadau wedi’u gwahaniaethu a dyddiadau erbyn penodol i adran, creu grwpiau hunan-gofrestru lle mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn yr un adran, a nodi mai dim ond gyda defnyddwyr eraill yn eu hadran y gall ymrestriadau ryngweithio.