Sut byddaf i’n gwybod os oes diffyg yng ngwasanaeth Canvas?
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Canvas, defnyddiwch y Dudalen Statws neu'r Rhestr Bostio i Weinyddwr.
Gweld Tudalen Statws Canvas
Ewch i status.instructure.com i gael adroddiadau digwyddiadau sy'n ymwneud â Canvas. Mae’r adroddiadau'n gyhoeddiadau cyffredinol a allai effeithio ar eich sefydliad. Ni fydd Tudalen Statws Canvas yn nodi diffygion yn y gwasanaeth oni bai eu bod wedi para mwy na 15 munud.
Gweld Eiconau Statws
Ar y Dudalen Statws, defnyddir eiconau i ddisgrifio statws presennol Canvas yn gyffredinol [1] a chydrannau penodol yn Canvas [2]. Bydd yr eiconau hyn yn cyfateb i’r statws canlynol:
- Gweithredol: mae’r gydran yn gweithio yn ôl y disgwyl [3]
- Perfformiad wedi Dirywio: mae’r gydran yn arafach na’r ystod disgwyliedig [4]
- Diffyg Rhannol: mae'r gydran yn araf iawn ac mae cyfnodau segur ysbeidiol sydd fel arfer yn effeithio ar is-set fach o ddefnyddwyr [5]
- Diffyg Mawr: nid yw’r gydran yn weithredol mwyach neu mae'r cysylltiad wedi’i golli’n rhannol, gan effeithio ar nifer fawr o ddefnyddwyr Canvas [6]
- Cynnal a chadw: mae’r gydran wedi’i thynnu i lawr yn fwriadol i ddatrys problemau mawr [7]
Tanysgrifio i'r Rhestr Bostio i Weinyddwyr.
Cysylltwch â'ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i danysgrifio i’r Rhestr Bostio i Weinyddwyr. Os ydych chi wedi tanysgrifio i'r rhestr bostio, byddwch yn cael negeseuon e-bost os bydd diffyg yng ngwasanaeth Canvas yn effeithio ar eich sefydliad.