Sut ydw i’n golygu neu ddileu deilliant mewn cyfrif?

Gallwch chi olygu neu ddileu deilliannau yn eich cyfrif eich hun. Mae modd addasu deilliannau os ydyn nhw wedi cael eu defnyddio i asesu myfyrwyr, ond mae’n bosib y bydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar ganlyniadau myfyrwyr.

Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae golygu neu ddileu deilliant yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hon, dysgwch sut mae golygu neu dynnu deilliant sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Nodiadau:

  • Gallwch chi addasu unrhyw ddeilliannau llle mae gennych chi hawl.
  • Does dim modd dileu deilliannau sydd wedi cael eu halinio â banc cwestiynau neu aseiniad oni bai eu bod nhw’n cael eu tynnu o’r banc cwestiynau neu aseiniad. Does dim modd dileu deilliannau sydd wedi cael eu defnyddio i asesu myfyriwr.
  • Os na allwch chi olygu graddfeydd meistroli a dulliau cyfrifo ar gyfer deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi graddfeydd meistroli a dulliau cyfrifo deilliannau ar draws y cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Dewis Deilliant

Dod o hyd i’r deilliant rydych chi eisiau ei addasu.

Addasu Deilliant

I olygu deilliant, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [1]. Mae golygu deilliant yn gadael i chi newid enw, disgrifiad, dull cyfrifo ac elfennau eraill deilliant fel y cawsant eu gosod wrth greu deilliant cyfrif.

Ar ôl i chi orffen golygu, cliciwch y botwm Cadw (Save).

I ddileu deilliant, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2].

Gweld Cadarnhau Golygu Deilliant

Gweld Cadarnhau Golygu Deilliant

Os byddwch chi’n golygu deilliant sydd wedi cael ei ddefnyddio i asesu myfyriwr, bydd Canvas yn dangos neges i roi gwybod i chi y bydd eich golygiadau yn diweddaru pob deilliant sy’n gysylltiedig â chyfarwyddyd sgorio sydd heb gael ei asesu.

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodyn: Dim ond ar gyfer deilliannau rydych chi’n eu haddasu sydd heb gael eu defnyddio i asesu myfyriwr y mae’r neges hwn yn ymddangos. Os nad yw’r neges cadarnhau hwn yn ymddangos, mae’r deilliant yn gysylltiedig â mwy nag un cyfarwyddyd sgorio a does dim modd diweddaru golygiadau.

Gweld Deilliant wedi’i Asesu

Os yw deilliant wedi cael ei ddefnyddio i asesu myfyriwr, a bydd rhywfaint o’r addasiadau’n effeithio ar ganlyniadau myfyriwr[1].

I weld unrhyw eitemau wedi’u halinio ac aseiniadau myfyriwr ar gyfer deilliant penodol, cliciwch enw’r deilliant [2]. Efallai y bydd yr aseiniadau a’r cyfarwyddiadau sgorio hyn yn cael eu heffeithio pan rydych chi’n golygu’r deilliant.

Gweld Cadarnhau Golygiadau Sgorio

Gweld Cadarnhau Golygiadau Sgorio

Os ydych chi’n golygu manylion sgorio ar ddeilliant sydd wedi cael ei ddefnyddio i asesu myfyrwyr bydd Canvas yn dangos neges i roi gwybod i chi y bydd eich golygiadau yn effeithio ar bob myfyriwr sydd wedi cael ei asesu yn defnyddio’r deilliant. Dydy newidiadau sgorio ddim ond yn effeithio ar sgôr meistroli dysgu myfyriwr yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu ar gyfer y deilliant wedi’i olygu. Pan mae maen prawf sgorio yn cael ei olygu, mae’r gwerthoedd meistroli dysgu yn graddio ar gyfer cyfarwyddiadau dysgu wedi’u hasesu yn unol â’r pwyntiau gwreiddiol posib.

Cliciwch y botwm Cadw (Save).