Sut ydw i’n newid y dewis iaith yn fy nghyfrif defnyddiwr fel gweinyddwr?
Saesneg yw iaith ddiofyn Canvas, ond gallwch ddewis gweld rhyngwyneb Canvas mewn iaith arall.
Nodyn: Gall addysgwyr newid y dewis iaith ar gyfer eu cyrsiau. Os byddwch chi’n gweld cwrs lle mae'r addysgwr wedi newid yr iaith (ar gyfer cwrs iaith dramor gan amlaf), bydd iaith y cwrs yn disodli’r iaith yn eich gosodiadau defnyddiwr.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
![Agor Gosodiadau Defnyddiwr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/987/323/original/9e9a0637-9783-4739-b4a9-3e98c7e802d4.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
![Golygu Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/513/904/original/251db2c4-fad9-4a48-91be-83b997e570a2.png)
Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Dewis Iaith
![Dewis Iaith](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/786/441/original/da437919-9426-4ffc-98b7-915de7e48fb1.png)
Yn y gwymplen Iaith (Language), dewiswch yr iaith o’ch dewis.
Diweddaru Gosodiadau
![Diweddaru Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/786/443/original/c5b2ba69-f1a8-4149-959c-dac6b66734b6.png)
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).